Gorchymyn Dyled Trydydd Parti
Tudalen 2 o 8
Pryd ga'i wneud cais am Orchymyn Dyled Trydydd Parti?
Fe allwch wneud cais am orchymyn unrhyw bryd ar ôl i chi gael dyfarniad. Fodd bynnag, ni fydd y barnwr sy'n ystyried eich cais yn gwneud gorchymyn oni bai fod dyledwr y dyfarniad:
- wedi methu â thalu swm y dyfarniad pan oedd yn ddyledus; neu
- wedi methu â thalu un neu fwy o'r rhandaliadau sy'n ddyledus dan delerau'r dyfarniad.
Dylech ystyried yn ofalus pa bryd i wneud eich cais. Dim ond arian sydd mewn cyfrif ar y diwrnod y bydd y trydydd parti'n derbyn y gorchymyn (y diwrnod cyflwyno) a gaiff ei 'rewi' gan y gorchymyn llys a anfonir, i ddechrau, at y trydydd parti. Felly, er enghraifft, os derbynnir y gorchymyn ychydig o ddiwrnodau cyn i gyflog y dyledwr gael ei dalu i'r cyfrif, dydych chi ddim yn debygol o gael llawer, os cewch chi unrhyw beth o gwbl, oherwydd ni fydd y 'rhewi' yn berthnasol i unrhyw arian sy'n cael ei dalu i'r cyfrif ar ôl derbyn gorchymyn y llys.
