English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

O fewn yr adran hon

Atafaelu enillion Gorchymyn Arwystlo Gorchymyn Dyled Trydydd Parti Gorchymyn i gael gwybodaeth Gwarant i weithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Dyfarniadau'r llys sirol Ffioedd y Llys Sirol Llawlyfr Atafaelu Enillion Ynglyn a Beilïaid a Swyddogion y Siryf

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestra Dir Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Gymdeithas Gwasanaethau Gorfodi

Gorchymyn Dyled Trydydd Parti


Tudalen 1 o 8

Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.

Pwrpas y canllawiau hyn yw rhoi syniad cyffredinol i chi am brosesau'r Gorchmynion Dyled Trydydd Parti, a does dim modd iddo esbonio popeth am reolau a threfniadau'r llys. Os ydych chi'n ansicr am y trefniadau a esbonnir yn y canllawiau neu unrhyw drefniadau sy'n codi ar ôl i chi gychwyn eich cais, gofynnwch i aelod o'r staff mewn unrhyw lys sirol. Os bydd mater cyfreithiol yn codi, rhaid i chi ofyn am help gan asiantaeth gynghori, canolfan gyfraith neu dwrnai. I gael gwybod ymhle mae'ch twrnai agosaf neu eich asiantaeth gynghori agosaf, chwiliwch yng nghyfeiriadur y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.

Os byddwch chi'n derbyn unrhyw daliadau gan y diffynnydd yn ystod achos gorfodi, rhaid i chi roi gwybod i'r llys ar unwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig os gwneir taliad cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer gwrandawiad.

Beth ydy Gorchymyn Dyled Trydydd Parti?

Fel arfer, gwneir gorchymyn dyled trydydd parti i rwystro'r diffynnydd rhag tynnu arian o'i g/chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Bydd yr arian sy'n ddyledus i chi'n cael ei dalu i chi o'r cyfrif. Hefyd, gellir anfon gorchymyn dyled trydydd parti at unrhyw un sydd mewn dyled ariannol i'r diffynnydd.

Gelwir y corff neu'r unigolyn sy'n dal yr arian yn 'drydydd parti'. Bydd gorchymyn dyled trydydd parti'n atal y diffynnydd rhag cael gafael ar yr arian nes bod y llys yn penderfynu a ddylid talu'r arian i chi ai peidio. Yn yr achos hwn, gelwir y person sydd mewn dyled i chi yn 'ddyledwr y dyfarniad', ac fe'ch gelwir chi yn 'gredydwr y dyfarniad'. Rhaid i'r arian a ddelir gan y trydydd parti fod yn cael ei ddal i'r dyledwr yn unig. Er enghraifft, chewch chi ddim gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti yn erbyn cyfrif banc ar y cyd oni bai fod dyled y dyfarniad yn ddyledus gan bawb sydd biau'r cyfrif.



Nesaf>>


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 02 November 2006 12:02. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .