Atafaelu enillion
Tudalen 1 o 14
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Beth ddylwn i ei wneud?
Dull o dynnu arian o gyflog diffynnydd i dalu dyled yw gorchymyn atafaelu enillion a dim ond os bydd y diffynnydd mewn gwaith cyflogedig y bydd dull o'r fath o gymorth.
Cyn y gallwch chi ofyn i'r llys gychwyn gorchymyn atafaelu enillion:
- rhaid i'r diffynnydd fod ar ei hôl hi gydag o leiaf un taliad (a elwir 'bod mewn ôl-ddyled); a
- rhaid i'r ddyled fod yn £50 neu fwy.
|
|
^ Brig
|
