English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

O fewn yr adran hon

Atafaelu enillion Gorchymyn Arwystlo Gorchymyn Dyled Trydydd Parti Gorchymyn i gael gwybodaeth Gwarant i weithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Dyfarniadau'r llys sirol Ffioedd y Llys Sirol Llawlyfr Atafaelu Enillion Ynglyn a Beilïaid a Swyddogion y Siryf

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestra Dir Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Gymdeithas Gwasanaethau Gorfodi

Gwarant i weithredu


Tudalen 6 o 12

Beth mae'r llys yn ei wneud?

Os nad yw'r diffynnydd yn byw o fewn ardal y llys, bydd y llys yn anfon y warant i'r llys lleol.

Fel arfer, bydd y beili'n anfon llythyr at y diffynnydd yn dweud bod gwarant wedi'i chodi a bod rhaid iddo ef neu iddi hi dalu o fewn saith niwrnod.

Os bydd y diffynnydd yn talu, bydd y llys yn anfon yr arian atoch. Gallai hyn gymryd hyd at 15 diwrnod os yw'r diffynnydd wedi talu gyda siec. (Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y siec wedi'i chlirio.)

Os na fydd y diffynnydd yn talu o fewn saith niwrnod, bydd y beili'n galw yn y cyfeiriad a roesoch. Bydd y beili'n galw yng nghyfeiriad y diffynnydd o fewn 15 diwrnod gwaith i'r dyddiad y codwyd y warant. Bydd y beili'n ceisio nodi nwyddau y gallent eu gwerthu mewn arwerthiant neu'n casglu taliad fel nad oes rhaid gwerthu'r nwyddau.

Os rhoesoch chi fwy nag un cyfeiriad, bydd y beili'n galw ym mhob cyfeiriad yn ei dro.

Os oes gan y diffynnydd nwyddau y gellir eu gwerthu, bydd y beili'n tynnu'r gost o gymryd, storio a gwerthu'r nwyddau o'r swm a godant. Bydd y llys yn anfon y gweddill atoch ar ôl gwneud hyn.

Os na fydd y swm hwn yn ddigon i ad-dalu'r swm sy'n ddyledus i chi, bydd y beili'n ymweld â'r diffynnydd i weld a oes nwyddau eraill y gellir eu gwerthu. Os nad oes nwyddau eraill, ni chaiff y beili gymryd unrhyw gamau pellach ar y warant.



Nesaf>>


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 July 2005 13:54. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .