English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

O fewn yr adran hon

Atafaelu enillion Gorchymyn Arwystlo Gorchymyn Dyled Trydydd Parti Gorchymyn i gael gwybodaeth Gwarant i weithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Dyfarniadau'r llys sirol Ffioedd y Llys Sirol Llawlyfr Atafaelu Enillion Ynglyn a Beilïaid a Swyddogion y Siryf

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestra Dir Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Gymdeithas Gwasanaethau Gorfodi

Gwarant i weithredu


Tudalen 2 o 12

Am faint y galla' i godi gwarant?

Gallwch ofyn i feili'r llys sirol geisio cael unrhyw swm hyd at £5,000 yn ôl. (Nid yw hyn yn berthnasol os byddwch yn gorfodi cytundeb a reoleiddir dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Dim ond yn y llysoedd sirol y gellir gorfodi'r cytundebau hyn.) Chewch chi ddim gofyn i'r llys sirol godi gwarant am fwy na hyn, ond fe allwch drosglwyddo'ch achos i gael ei farnu yn yr Uchel Lys. Fe allwch wedyn ofyn i swyddog y siryf orfodi'r cytundeb.

Os oes £600 neu lai yn ddyledus i chi, chewch chi ddim gofyn i swyddog y siryf geisio cael eich arian yn ôl.

Fe allwch gael rhagor o wybodaeth yn y canllawiau Gwybodaeth am Feilïaid a Siryfion.

Ond os oes rhwng £600 a £5,000 yn ddyledus i chi (oni bai eich bod yn gorfodi cytundeb a reoleiddir dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974), gallwch ddewis codi gwarant mewn llys sirol neu yn yr Uchel Lys. Fodd bynnag, all staff y llys ddim dweud wrthych chi pa un o'r ddau ddewis sydd fwyaf tebygol o lwyddo i gael eich arian yn ôl i chi. Rhaid i chi wneud y penderfyniad. Mae'n bosib y gallwch chi gael cyngor am ddim gan ganolfan gyfraith. Gall Canolfan Cyngor Ar Bopeth neu ganolfan cyngor i ddefnyddwyr eich helpu i benderfynu hefyd.

Cofiwch, all beilïaid a swyddog y siryf ddim gweithredu os nad oes gan y diffynnydd nwyddau i'w gwerthu.

Os byddwch yn penderfynu codi gwarant yn yr Uchel Lys, rhaid i chi gael 'tystysgrif dyfarniad'. Mae'r dystysgrif hon yn nodi manylion eich achos gan ddangos faint sy'n ddyledus i chi. I wneud cais am hyn rhaid i chi gael ffurflen N293a, 'tystysgrif gyfunol o ddyfarniad i orfodi'r dyfarniad trwy writ fi fa' (enw ar warant yn yr Uchel Lys yw fi fa). Gallwch gael gafael ar Ffurflen N293a (PDF 233kb) oddi ar y wefan hon neu gan swyddfa unrhyw lys sirol. Pan gewch afael ar ffurflen N293a, rhaid i chi lenwi rhan 1, a'i hanfon at y llys lle gwnaed y dyfarniad. Os na fyddwch yn llenwi'r rhan hon yn llawn, efallai y bydd rhaid i'r llys ei hanfon yn ôl atoch. Rhaid i chi nodi'r canlynol:

Darllenwch y nodiadau ar ddwy ochr y ffurflen.

Mae'r drefn yn yr Uchel Lys yn wahanol i'r drefn yn y llysoedd sirol a gall fod yn gymhleth ac yn ddrutach. Efallai y byddwch am gael cyngor gan dwrnai, canolfan gyfraith neu ganolfan Cyngor Ar Bopeth cyn i chi ddechrau'r weithdrefn hon. Mae rhai llysoedd sirol yn gofrestrfeydd dosbarth i'r Uchel Lys hefyd. Gall staff yno neu yn yr Uchel Lys yn Llundain ddweud mwy wrthych chi am y siryfion.

Cyn i chi benderfynu sut i fwrw ymlaen, rhaid i chi feddwl a ydych chi'n debygol o gael yr arian sy'n ddyledus i chi a ffi'r llys gan y diffynnydd ai peidio. Cofiwch na all yr un llys warantu y cewch chi'ch arian yn ôl.



Nesaf>>


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 July 2005 13:54. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .