English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canfod Llys

Cynadledda Fideo mewn llysoedd


Mae cynadledda fideo yn galluogi unrhyw berson sydd â diddordeb mewn achosion llys i fod yn rhan o wrandawiad o leoliad pell. Ar ei symlaf, gall tyst mewn lleoliad pell roi ei d/thystiolaeth trwy gyfrwng cyswllt fideo â'r llys gydag un sgrin ac un camera yn ystafell y llys. Mae'r dechnoleg sydd ei hangen i sefydlu cyswllt fideo yn gymharol syml. Mae angen sgrin a chamera gyda meicroffon ym mhob lleoliad. Gellir defnyddio unrhyw fath o sgrin. Defnyddir llinell ffôn ISDN a gyflenwir gan BT i drosglwyddo'r lluniau a'r sain yn electronig rhwng y lleoliadau. Cysylltir trwy ddeialu'r rhif ffôn a neilltuir ar gyfer un o'r lleoliadau.

Yn unol â Deddf Mynediad at Gyfiawnder 1999, caniateir defnyddio'r cyfleusterau Cynadledda Fideo mewn gwrandawiadau sifil, e.e. cynadleddau rheolaeth achos, gwrandawiadau llareiddiad ategol, tystion tramor neu dystion mewn lleoliad pell neu mewn unrhyw achos sifil lle bydd y llys yn rhoi cyfarwyddyd i ddefnyddio'r fideo a bod y partïon perthnasol yn rhoi caniatâd i'w ddefnyddio.

Mae offer Cynadledda Fideo yn y lleoliadau canlynol ac mae'n bosibl i bob lleoliad gysylltu ag unrhyw leoliad arall sydd ar y rhestr. Er enghraifft, gellir defnyddio offer Cynadledda Fideo yn Birmingham i roi tystiolaeth mewn achos a glywir yn Plymouth. Gellir cysylltu amryw leoliadau hefyd, e.e. gellir defnyddio'r dystiolaeth a roddir yn Bournemouth, Leeds a Manceinion mewn achos a glywir yn Llysoedd Barn Brenhinol Llundain. Mae'r rhwydwaith yn hyblyg iawn.

Cynadledda Fideo yn awr ar gael mewn Canolfannau Gofal

Er mwyn datrys y broblem o oedi gydag achosion gofal plant a goruchwyliaeth, cynigir technoleg Cynadledda Fideo (CF) mewn Canolfannau Gofal yn awr (mae gan Ganolfannau Gofal awdurdodaeth i wrando Achosion Deddf Plant Cyfraith Gyhoeddus). Nodwyd mai trefnu presenoldeb tystion arbenigol oedd yn un o'r prif achosion dros oedi, a bydd yr offer CF yn rhoi mwy o hyblygrwydd i lysoedd o ran pryd a sut y mae angen tystion arbenigol i roi tystiolaeth (yn enwedig tystion meddygol).

Gosodwyd unedau CF symudol ym mhob un o'r 53 o Ganolfannau Gofal ledled Cymru a Lloegr, ac mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn y broses o ddatblygu cyfeirlyfr o safleoedd addas mewn ysbytai, sefydliadau meddygol a phrifysgolion y gellid eu defnyddio gan dystion arbenigol. Golyga hyn y gall GLlEM drefnu dyddiadau gwrandawiadau a chwblhau achosion yn gynt a sicrhau gostyngiad yn y costau a wynebir gan y partïon a'r pwrs cyhoeddus. Bydd hefyd yn golygu y bydd gofyn i arbenigwyr dreulio llai o amser yn teithio'n ôl ac ymlaen o lysoedd a llai o amser yn disgwyl i'w hachos gael ei glywed.

Dylai pobl sy'n dymuno defnyddio'r offer CF gyflwyno eu cais i'r llys cyn y Gynhadledd Rheoli Achos, neu cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl cyn y gwrandawiad llawn. Yn ystod y Gynhadledd Rheoli Achos gellir cytuno ynghylch unrhyw faterion ymarferol angenrheidiol, fel lleoliad y tyst, pwy fydd yn gweinyddu'r llw ac unrhyw drefniadau arbennig eraill sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gall y tystion roi eu tystiolaeth yn rhwydd.

Safle

Enw Cyswllt y Safle

Rhif Ffôn

Llys Sirol Barnet Jane Billyack 020 8371 7108
LLys Sirol Basingstoke Linda Thompson 01256 318 222
Llys y Goron a Llysoedd Sirol Birmingham Andrea Lloyd 0121 681 3120
Llys Sirol Blackburn Anne Wright 01254 680654
Llys Cyfun Bournemouth Douglas Bloom 01202 502 890 01202 502 879
Llys Sirol Brighton Vicki Wilton 01273 811332
Llys Sirol Bryste Jerry Fowler/Rebecca Cobbin 0117 9106704 /
0117 9106719
Llys Sirol Caernarfon Anwen Wiliams 01286 684600
Llys Sirol Caergawnt Graham Jone / Susan Bolton 01223224 500
Llys Sirol Caergaint Sue Nicholas 01227 819213
Llys Sirol Chelmsford Janet Littlewood 01245 264670
Canolfan Llysoedd Sifil Caerdydd  Stephen Brown 029 2037 6471
Llys Sirol Caerliwelydd  Peter Cowen 01228 520 619
Canolfan Llysoedd Sifil Caer  Julie Burgess 01244 404 241
Canolfan Llys Cyfun Coventry Neil Turfrey 0247 6536194
Adran Sifil y Llys Apêl Sharon Whitfield

020 7947 6891
020 7947 6917 

Llys Sirol Derby Mrs Linda Morris 01332 622595
Llys Sirol Caerwysg Nicky Hill/Pat Denman 01392 415318
Llys Sirol Guildford Julie Eade 01483 595211
Canolfan Achosion Hove Peter Dingle 01273 229 200
Llys Sirol Ipswich Robert Chester 01473 298412
Llys Sirol Kingston on Hull Anne Dawson 01482 621144
Llys Sirol Kingston-on-Thames Joseph Barnes 020 8546 8843
Llys Sirol Caerhirfryn Stephen Sainsbury 01524 68112
Canolfan Llys Cyfun Leeds Micheal Binns 0113 254 8616
Llys y Goron a Llysoedd Sirol Caerlŷr Jane Wainwright 0116 222 5899
Llys Sirol Lincoln Richard Harrison 01522 883 206
Llys Sirol Lerpwl Gill Best 0151 471 1094
Llys Sirol Luton Natalie Robinson 01582 506700
Llysoedd Barn Sifil Manceinion David Morecroft 0161 954 1737
Llys Sirol Medway Pauline Rockett 01634 810721
Llys Sirol Milton Keynes Caroline Beechey 01908 302803
Canolfan Llys Cyfun Newcastle David Bean 0191 201 2055
Llys Sirol Casnewydd (Gwent) Jan Mills 01633 227171
Llys Sirol Northampton Bernie Norton 01604 470453
Llys Sirol Norwich Dave Curtis 01603 728244
Llys Sirol Nottingham Nicola Conlin 0115 910 3588
Llys Sirol Rhydychen Neil Spiker 01865 264215
Llys Sirol Peterborough Mary Dew 01733 355421
Canolfan Llys Cyfun Plymouth Pam Reedes 01752 677 489
Llys Sirol Pontypridd Richard Roberts 01443 490800
Llys Sirol Portsmouth Yvonne Moorecroft 02392 893015
Llys Sirol Reading Neil Ashby/Helen Bateman 0118 9870561
Llys Sirol y Rhyl Tracey Sullivan 01745 352940
Llysoedd Barn Brenhinol Roger Little Hazel 020 7947 6581
020 7947 6357
Llys Sirol Sheffield David Schofield 0114 2812473
Llys Sirol Stoke on Trent Amanda Lowndes/Claire Barlow 01782 854019
Llys Sirol Sunderland Stephen Preen 0191 5680758
Llys y Goron Abertawe Andrew Morris 01792 484 706
Canolfan Llys Cyfun Swindon Sally Snowdon 01793 690 574
Llys Sirol Taunton Graham Haines 01823 335972
Canolfan Llys Cyfun Teesside Keith Telfer 01642 343 047
Llys Sirol Telford Mrs Lorna Colling 01952 291045
Llys Sirol Truro Alex Maker 01872 222340
Llys Sirol Warrington Tony Allman 01925 256700
Llys Sirol Watford Tracy Harrison 01923 699417
Llys Sirol Wolverhampton Ian Lowbridge 01902 481085
Llys Sirol Caerwrangon Tim Good 01905 7307800
Llys Sirol Efrog Diane Stephenson 01904 629935
 
^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 08 May 2007 14:52. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .