Rhan IV Deddf Cyfraith Teulu 1996
Tudalen 6 o 14
Pa ffurflenni fydd eu hangen arna'i?
- Rhaid i chi gael tri chopi o'r Ffurflen Gais (FL401) a chopi o'r nodiadau cyfarwyddyd sy'n dod gyda'r ffurflen gais.
- Os ydych chi'n gwneud cais am "Orchymyn Anheddu", a all olygu bod anheddwr ty ar rent neu ar forgais yn newid, rhaid i chi gael copi arall o'r ffurflen gais (FL401) ar gyfer y landlord neu'r cwmni morgais.
- Hefyd, rhaid i chi gael Ffurflen N285 wag, ac arni, rhaid i chi esbonio pam fod angen y gorchymyn arnoch a'r digwyddiadau sydd wedi peri i chi wneud cais i'r llys.
- Os ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bosibl na fydd rhaid i chi dalu ffi, rhaid i chi gael Ffurflen EX160 (cais am gael eich eithrio rhag talu ffi neu gael dileu'r ffi). Rhaid i chi lenwi un o'r ffurflenni hyn ar gyfer pob ffi sydd i'w thalu.
Mae'r ffurflenni hyn i gyd yn rhad ac am ddim. Gallwch eu cael hefyd mewn unrhyw lys sirol sydd ag awdurdodaeth teulu. Gweler yr adran Gwybodaeth a Chyfeiriadau Llysoedd i gael rhestr o'r llysoedd hyn.
|
|
^ Brig
|
