Rhan IV Deddf Cyfraith Teulu 1996
Tudalen 3 o 14
Ymhle ga'i wneud cais am orchymyn?
- Cewch wneud eich cais mewn unrhyw lys sirol sydd ag awdurdodaeth dros ysgaru neu achosion teulu neu ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu. Gellir cael rhestr o'r rhain i gyd yn yr adran Gwybodaeth a Chyfeiriadau Llysoedd.
- Cewch hefyd wneud cais mewn unrhyw Lys Ynadon sydd ag awdurdodaeth dros achosion teulu. Os penderfynwch chi ddefnyddio'r Llys Ynadon, dylech gysylltu â'ch dewis lys. Byddant yn gallu'ch helpu gydag unrhyw drefniadau lleol ac amserau agor y llys.
- Rhestrir cyfeiriadau a rhifau ffôn yr holl lysoedd sirol a'r llysoedd ynadon yn y llyfr ffôn o dan 'Courts'.
Pryd mae'r llysoedd hyn ar agor?
- Mae'r llysoedd sirol ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.
- Mae Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4.30 pm.
|
|
^ Brig
|
