English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canfod Llys Teulu Canllawiau a Gwybodaeth Trais Teuluol Canllaw i wneud iawn sifil a sancsiynau troseddol Ffioedd y Llys Teulu Ffurflenni a Chanllawiau

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymorth i Ddioddefwyr Cymorth i Ferched Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Noddfa

Rhan IV Deddf Cyfraith Teulu 1996


Tudalen 2 o 14

Sut fedra'i gael gwybod ga'i wneud cais ai peidio?

Gallwch wneud cais am orchymyn yn erbyn rhywun arall os ydych chi'n perthyn yn un o'r ffyrdd hyn:

Yn briod: dyn neu ddynes yr ydych chi'n briod neu wedi bod yn briod ag ef/hi.

Pobl sy'n cyd-fyw: dyn a dynes sydd heb fod yn briod, ond sydd, neu sydd wedi byw gyda'i gilydd fel gwr a gwraig.

Dau berson sy'n byw neu sydd wedi byw yn yr un cartref: ond nid os ydy un ohonyn nhw'n gyflogedig gan y llall, neu'n denant, yn lodjiwr neu'n lletywr i'r llall.

Perthnasau penodol: (e.e. rhiant, brawd, chwaer, modryb) - dylech ofyn yn swyddfa'r llys am restr lawn o'r holl berthnasau posibl.

Dau berson sydd wedi cytuno i briodi ei gilydd: ond rhaid i chi wneud cais o fewn tair blynedd i'r adeg y daw'r cytundeb i briodi i ben.

Rydych chi a'r person arall yn rhieni i blentyn neu mae gennych gyfrifoldeb rhieni dros blentyn: mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych chi a'r person arall wedi bod yn gyfrifol am y plentyn yn y gorffennol.

Rhiant neu nain neu daid naturiol plentyn sydd wedi'i fabwysiadu neu wedi'i ryddhau i'w fabwysiadu: Dim ond dan yr amgylchiadau hyn y cewch chi wneud cais: os mai'r person arall yw'r plentyn, y rhiant mabwysiadol neu unrhyw oedolyn sydd wedi gwneud cais am fabwysiadu'r plentyn neu y mae'r plentyn wedi'i leoli gydag ef/hi i'w fabwysiadu.

Os ydych chi dan 18 oed, rhaid i chi wneud y cais yn yr Uchel Lys a rhaid i rywun dros 18 oed eich helpu i wneud y cais. Yr enw a roddir ar y person hwnnw, yw 'Ffrind Nesaf' ac fe all fod yn rhiant neu'n berthynas i chi.

Os ydych chi dan 16 oed, bydd angen i chi gael caniatâd barnwr yr Uchel Lys i wneud y cais.

Os ydych eisiau gwneud cais am Orchymyn Peidio â Molestu neu Orchymyn Anheddu, dylech ddarllen y canllawiau hyn yn ofalus ynghyd â'r nodiadau ar gyfer llenwi'r ffurflen gais. Mae'n rhestru'r holl wybodaeth a'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch, felly gwnewch yn siwr eu bod gennych.

Os oes angen help arnoch i benderfynu a allwch chi wneud cais am orchymyn ai peidio, gofynnwch am help twrnai neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth.



Nesaf>>


<<Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 07 July 2005 11:33. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .