Rhan IV Deddf Cyfraith Teulu 1996
Tudalen 1 o 14
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Mae'r canllawiau hyn yn dweud wrthych sut y gall y Ddeddf Cyfraith Teulu newydd eich helpu chi. Mae'n esbonio pwy gaiff wneud cais am orchymyn, yn disgrifio beth mae'n rhaid i chi ei wneud a beth fydd yn digwydd unwaith y bydd y llys yn derbyn eich cais.
Dim ond am geisiadau sy'n cael eu gwneud mewn llys sirol mae'r canllawiau hyn yn sôn.
Sut gall y Ddeddf Cyfraith Teulu fy helpu i?
Daeth y Ddeddf newydd hon yn gyfraith ym mis Hydref 1997 ac mae'n gwarchod pobl sy'n dioddef oherwydd trais domestig drwy gyfrwng dau wahanol fath o orchymyn:
- Gorchymyn Peidio â Molestu - mae hwn yn atal person arall rhag gwneud niwed i chi neu i blentyn.
- Gorchymyn Anheddu - mae hwn yn dweud pwy gaiff fyw yng nghartref y teulu ac fe all orchymyn i rywun arall adael y cartref.
|
|
^ Brig
|
