Gofynnwyd i mi fod yn dyst
Tudalen 3 o 11
Sut y gellir fy ngorfodi i fod yn dyst ffeithiau?
Gall parti (neu ei dwrnai) ofyn i'r llys gyflwyno Ffurflen N20 (gwys tyst).
Mae Ffurflen N20 yn dweud wrthych bod yn rhaid i chi fynd i'r llys fel tyst, a phryd a ble i fynychu.
Os na fyddwch yn mynd pan ofynnir i chi, byddwch yn euog o 'ddirmygu'r llys' a gellir eich dirwyo hyd at £1,000.
Os byddwch yn derbyn gwys tyst ond ni allwch yn wirioneddol fynychu'r gwrandawiad, gallwch wneud cais i dynnu'r gwys yn ôl.
Cyn y byddwch yn gwneud hyn, cysylltwch gyda'r parti (neu dwrnai'r parti). Mae'n bosibl y bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw anhawster sydd gennych.
Os na fedrant eich helpu, rhaid i chi fynd at y llys lle cyflwynwyd y gwys cyn gynted ag y bo modd a gofyn am gael gwneud cais. Efallai y bydd raid i chi dalu ffi.
Byddwch yn cael apwyntiad i weld barnwr. Bydd y barnwr yn gwrando ar eich rhesymau ac unrhyw wrthwynebiadau ac yn penderfynu a ddylid eich esgusodi rhag bod yn dyst.
Meddyliwch yn ofalus cyn gwneud y cais. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, efallai y bydd raid i chi dalu costau'r parti a gyflwynodd y (gwys tyst).
Gallwch dal dderbyn gwys tyst hyd yn oed os nad ydych wedi gwrthod bod yn dyst. Gallwch hefyd ofyn am dderbyn un. Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol dangos un, er enghraifft i'ch cyflogwr os bydd yn rhaid i chi ofyn am amser i ffwrdd o'ch gwaith i fynychu'r gwrandawiad.
