Bod yn Dyst
Yn Llys y Goron, y Llys Ynadon a'r Llys Ieuenctid
Tystion - y daith drwy'r llys
Croeso i'r dudalen dioddefwyr a thystion. Os gofynnwyd i chi roi tystiolaeth mewn achos llys bydd y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn egluro beth sy'n digwydd cyn i chi fynd i'r llys, yn y llys ac ar ôl hynny. Rydym hefyd yn rhestru manylion cyswllt rhai mudiadau defnyddiol iawn.
Os oes angen i chi siarad â rhywun nawr, mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol annibynnol sy'n helpu dioddefwyr a thystion troseddau - ffoniwch y Llinell Gymorth ar gyfer Dioddefwyr ar 0845 30 30 900. Mae gan yr elusen wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi ac fe allwch gael sgwrs gyfrinachol â nhw.
Ydych chi yn:
Ddioddefwr
Tyst dros yr Erlyniad
Tyst dros yr Amddiffyniad
