English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

O fewn yr adran hon

Atafaelu enillion Gorchymyn Arwystlo Gorchymyn Dyled Trydydd Parti Gorchymyn i gael gwybodaeth Gwarant i weithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Dyfarniadau'r llys sirol Ffioedd y Llys Sirol Llawlyfr Atafaelu Enillion Ynglyn a Beilïaid a Swyddogion y Siryf

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestra Dir Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Gymdeithas Gwasanaethau Gorfodi

Beilïaid a Swyddogion Gorfodi


Tudalen 3 o 12

Pwy yw beilïaid a swyddogion gorfodi?

Pobl sydd wedi cael eu hawdurdodi i gymryd a gwerthu eich eiddo er mwyn talu'r arian sy'n ddyledus gennych chi i berson neu gorff yw beilïaid a swyddogion gorfodi. Maent hefyd yn troi pobl allan, ac yn arestio pobl.

Beilïaid llysoedd sirol caiff y rhain eu cyflogi gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM), ac maent yn gyfrifol am orchmynion gorfodi drwy adennill arian sy'n ddyledus o dan ddyfarniad llys sirol. Gallant gymryd a gwerthu eich nwyddau er mwyn adennill swm y ddyled. Gallant hefyd fynd ati i feddiannu eiddo a goruchwylio hynny, a dychwelyd nwyddau o dan gytundebau hurbwrcasu, a chyflwyno dogfennau llys.

Swyddogion gorfodi sifilaidd yn y Llysoedd Ynadon cânt eu cyflogi gan GLlEM ac maent yn gyfrifol am orfodi gorchmynion llysoedd sirol drwy adennill arian sy'n ddyledus dan ddyfarniad llys sirol. Gallant hefyd gymryd a gwerthu eich nwyddau i adennill y swm sy'n ddyledus o dan ddirwy neu hysbysiad cosb yn y gymuned. Gallant hefyd weithredu gwarantau arestio, carcharu ar draddodi, cadw dan glo ac atafael a godir gan Lys Ynadon o dan unrhyw un o nifer o statudau, yn cynnwys y statudau hynny sy'n ymdrin â gorfodi dirwyon a chosbau yn y gymuned. Gall swyddog gorfodi sifilaidd gyflawni gwarant o'r fath yn unrhyw le yng Nghymru a Lloegr.

Swyddogion gorfodi (Uchel Lys) mae'r rhain yn gyfrifol am orfodi gorchmynion llys drwy adennill arian sy'n ddyledus o dan ddyfarniad Uchel Lys, neu ddyfarniad llys sirol a drosglwyddwyd i'r Uchel Lys. Gallant gymryd a gwerthu eich nwyddau i glirio swm y ddyled. Gallant hefyd fynd ati i feddiannu eiddo a dychwelyd nwyddau, a goruchwylio hynny.

Beilïaid trwyddedig maent yn gorfodi dyledion ar ran sefydliadau fel awdurdodau lleol. Gallant gymryd a gwerthu eich nwyddau i glirio swm y ddyled sydd arnoch. Mae ganddynt dystysgrif hefyd sy'n eu galluogi nhw, a nhw yn unig, i godi atafael am rent, dyledion traffig ffyrdd, y dreth gyngor a threthi annomestig. Ni allant orfodi casglu arian sy'n ddyledus dan orchmynion Uchel Lys neu lys sirol.

Beilïaid anhrwyddedig mae ganddynt hawl i adennill arian sy'n ddyledus am amrywiaeth o ddyledion drwy gymryd a gwerthu eich nwyddau ond ni allant godi atafael am rent, dyledion traffig ffyrdd, y dreth gyngor na threthi annomestig, na gorfodi casglu arian sy'n ddyledus dan orchmynion Uchel Lys neu lys sirol.



Nesaf>>


<<Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 12 November 2007 10:54. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .