Ffioedd y Llys Sirol
Yn cynnwys ffioedd ar gyfer achosion teulu ers 1 Hydref 2007
Tudalen 1 o 2
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Ffioedd Y Llys Sifil
- Cychwyn eich hawliad
- Money Claim On-line
- Gwrth-hawliad
- Paratoi ar gyfer gwrandawiad
- Apeliadau
- Ceisiadau
- Asesu costau
- Copïau o ddogfennau
- Gorfodi dyfarniadau
- Cofrestru dyfarniadau tribiwnlys
- Canslo neu fodloni dyfarniadau'r llys sirol
- Methdaliad a chwmni'n dirwyn i ben
- Sut galla i wneud taliad i'r llys?
- Beth os na alla i fforddio'r ffi?
Cychwyn ffurflen hawliad pan fydd yr hawliad hwnnw am arian yn unig a phan fo'r swm:
| hyd at £300 | £30 |
| £300.01 - £500 | £45 |
| £500.01 - £1,000 | £65 |
| £1,000.01 - £1,500 | £75 |
| £1,500.01 - £3,000 | £85 |
| £3,000.01 - £5,000 | £108 |
| £5,000.01 - £15,000 | £225 |
| £15,000.01 - £50,000 | £360 |
| £50,000.01 - £100,000 | £630 |
| £100,000.01 - £150,000 | £810 |
| £150,000.01 - £200,000 | £990 |
| £200,000.01 - £250,000 | £1,170 |
| £250,000.01 - £300,000 | £1,350 |
| dros £300,000 neu swm annherfynol | £1,530 |
| Cychwyn achos pan fyddwch yn hawlio rhywbeth ar wahân i arian | £150 |
Gwasanaeth dros y rhyngrwyd gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yw Money Claim On-line ar gyfer hawlwyr a diffynyddion. Gallwch ddefnyddio'r broses hawdd, hwylus a diogel hon i wneud hawliad am arian hyd at £100,000 ar y rhyngrwyd a thalu llai o ffi llys. I gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i staff y llys neu ymwelwch â'n gwefan yn http://www.hmcourts-service.gov.uk/onlineservices/mcol/index.htm
| Hawliad a gychwynnwyd mewn llys | Money Claim Online | |
| hyd at £300 | £30 | £25 |
| £300.01 - £500 | £45 | £35 |
| £500.01 - £1,000 | £65 | £60 |
| £1,000.01 - £1,500 | £75 | £70 |
| £1,500.01 - £3,000 | £85 | £80 |
| £3,000.01 - £5,000 | £108 | £100 |
| £5,000.01- £15,000 | £225 | £210 |
| £ 5,000.01 - £50,000 | £360 | £340 |
| £50,000.01 - £100,000 | £630 | £595 |
Mae'r ffioedd uchod yn berthnasol os ydych yn gwneud hawliad yn erbyn yr hawlydd (gwrthhawliad); hynny yw, bydd y ffi sy'n ddyledus yn dibynnu ar swm y gwrthhawliad. Rhaid ei thalu pan gaiff y gwrthhawliad ei ffeilio yn swyddfa'r llys.
4. Paratoi ar gyfer gwrandawiad
- hawliad bychain am arian o £1,500 neu lai dim ffi
- hawliad bychain am arian pan fydd yr hawliad am rhwng £1,500 a £5,000 £35
- pob hawliad arall £200
Rhaid i'r hawlydd dalu'r ffi hon, ac eithrio pan fydd yr achos yn mynd yn ei flaen ar sail gwrthhawliad yn unig, pan fydd rhaid i'r diffynnydd dalu.
Pan fo ffi'n ddyledus, rhaid ei thalu pan gaiff yr holiadur dyrannu ei ffeilio, neu:
naill ai os penderfyna'r llys nad oes angen holiadur dyrannu;
neu os nad yw'n ofynnol, yn ôl y Rheolau Trefn Sifil, i lenwi holiadur dyrannu,
yna rhaid talu'r ffi:
- cyn pen 28 diwrnod ar ôl ffeilio'r amddiffyniad (neu ffeilio'r amddiffyniad olaf os oes mwy nag un diffynnydd); neu
- cyn pen 28 diwrnod ar ôl i'r amser a ganiateir ar gyfer ffeilio pob amddiffyniad ddod i ben.
Rhybudd: os na thalwch chi'r ffi dyrannu ar yr adeg briodol, gall y llys wneud gorchymyn a allai arwain at 'ddileu' datganiad eich achos (yr hawliad neu'r gwrth-hawliad). Golygai hyn na allech chi fwrw ymlaen gyda'ch hawliad (neu'ch gwrth-hawliad).
achosion amldrac a thrac cyflym £100
Yr hawlydd sy'n talu ffi'r holiadur rhestru a ffi'r gwrandawiad (gweler isod) ac eithrio pan fydd yr achos yn mynd yn ei flaen ar sail gwrth-hawliad yn unig, pan fydd yn rhaid i'r diffynnydd dalu.
Rhaid talu'r ffioedd adeg ffeilio'r holiadur rhestru.
Os bydd y llys yn pennu dyddiad neu wythnos ar gyfer y treial heb holiadur rhestru, rhaid talu'r ffi cyn pen 14 diwrnod ar ôl:
- anfon y rhybudd o ddyddiad neu wythnos y treial; neu, os na roddir rhybudd ysgrifenedig,
- y dyddiad pan ddywedir wrthych beth fydd dyddiad neu wythnos y treial.
Yr hawlydd sy'n talu ffi'r gwrandawiad ac eithrio pan fydd yr achos yn mynd yn ei flaen ar sail gwrth-hawliad yn unig, pan fydd yn rhaid i'r diffynnydd dalu.
| achos trac hawliadau bychain sy'n £300 neu lai | £25 |
| achos trac hawliadau bychain pan fo'r hawliad yn fwy na £301 ond yn llai na £500 | £50 |
| achos trac hawliadau bychain pan fo'r hawliad yn fwy na £501 ond yn llai na £1,000 | £75 |
| achos trac hawliadau bychain pan fo'r hawliad yn fwy na £1,001 ond yn llai na £1,500 | £100 |
| achos trac hawliadau bychain pan fo'r hawliad yn fwy na £1,501 ond yn llai na £3,000 | £150 |
| achos trac hawliadau bychain pan fo'r hawliad yn fwy na £3,001 ond yn llai na £5,000 | £300 |
| achos trac cyflym | £500 |
| achos amldrac | £1,000 |
Rhybudd: os nad ydych chi'n talu ffi'r holiadur rhestru a ffi'r gwrandawiad ar yr adeg briodol, gall y llys wneud gorchymyn a allai arwain at 'ddileu' datganiad eich achos (yr hawliad neu'r gwrth-hawliad). Golyga hyn na allech chi fwrw ymlaen gyda'ch hawliad (neu'ch gwrth-hawliad).
Gwrandawiad trac hawliadau bychain
Pan fydd dyddiad gwrandawiad wedi'i bennu a bod y llys, cyn dyddiad y gwrandawiad, yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o leiaf 7 niwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad yn dweud bod yr achos wedi'i setlo neu nad yw'r achos yn mynd yn ei flaen, bydd ffi'r gwrandawiad yn cael ei had-dalu'n llawn.
Gwrandawiad trac cyflym neu amldrac
Pan fydd dyddiad gwrandawiad wedi'i bennu ar gyfer achos trac cyflym neu amldrac a bod y llys, cyn dyddiad y gwrandawiad, yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig bod yr achos wedi'i setlo neu nad yw'r achos yn mynd yn ei flaen, bydd ffi'r gwrandawiad yn cael ei had-dalu yn ôl y canrannau canlynol:
- 100% os hysbysir y llys fwy na 28 diwrnod cyn y gwrandawiad;
- 75% os hysbysir y llys rhwng 28 ac 14 diwrnod cyn y gwrandawiad;
- 50% os hysbysir y llys rhwng 14 ac 7 niwrnod cyn y gwrandawiad;
- dim ad-daliad os hysbysir y llys lai na 7 niwrnod cyn y gwrandawiad;
Ffeilio rhybudd apelydd neu rybudd atebydd pan fo'r atebydd yn apelio, neu'n dymuno gofyn i'r llys apêl gadarnhau gorchymyn y llys is am resymau gwahanol neu ychwanegol i'r rhai a roddwyd gan y llys is yn:
| y trac hawliadau bychain | £100 |
| pob hawliad arall | £120 |
Nid yw'r ffioedd hyn yn berthnasol i apeliadau yn erbyn penderfyniad a wnaed mewn achosion asesu costau manwl.
| Gwneud cais trwy hysbysiad am osod dyfarniad o'r naill du | £75 |
| Gwneud cais am amrywio dyfarniad neu ohirio gorfodaeth | £35 |
| Gwneud cais ar rybudd | £75 |
| Gwneud cais am wy^s neu am orchymyn i dyst fod yn bresennol | £35 |
| Gwneud cais trwy gydsyniad, neu heb rybudd, am ddyfarniad neu orchymyn | £40 |
Nid yw hyn yn cynnwys ceisiadau am ddyfarniadau a wneir ar sail addefiad neu ddiffyg ymateb lle nad oes ffi yn daladwy Does dim rhaid talu ffi ar gyfer gwneud cais trwy gydsyniad i ohirio gwrandawiad pan gaiff ei dderbyn gan y llys o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad.
Gofyn am wrandawiad asesu costau manwl:
| Cronfa'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn unig (dim gorchymyn am dâl gan barti arall) | £105 |
| os nad yw'r swm yn fwy na £15,000 | £300 |
| os yw'r swm yn fwy na £15.001 ond yn llai na £50,000 | £600 |
| Apelio yn erbyn asesiad costau manwl | £105 |
| Rhoi tystysgrif costau diffyg ymateb | £45 |
| Gwneud cais am osod tystysgrif costau diffyg ymateb o'r naill du | £65 |
| Gwneud cais am gymeradwyo Tystysgrif Asesiad Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol | £35 |
Codir ffi am wneud llungopïau yn swyddfa'r llys.
Dogfennau a ddelir gan y llys:
| am lungopi o hyd at ddeg tudalen gyntaf dogfen | £5 |
| am lungopi o dudalennau dilynol o'r un ddogfen | 50c y dudalen |
| Am gopïau o ddogfennau a ddarperir ar ddisg gyfrifiadurol ar ffurf electronig neu arall | £5 |
Os yw'r llys wedi gorchymyn i rywun dalu swm o arian i chi neu i ddychwelyd eich nwyddau neu'ch eiddo/tir, ac nad ydynt wedi gwneud hynny, cewch gychwyn achos gorfodi. Gellir cael manylion y drefn orfodi gan y llys mewn cyfres o daflenni rhad ac am ddim. I gael gwybodaeth gyfreithiol, cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol ar 0845 345 4345 neu ymwelwch â http://www.cls.direct.org.uk/ Gallwch hefyd gael cyngor gan Ganolfan Cyngor Ar Bopeth neu Ganolfan Cyngor i Ddefnyddwyr.
Codi gwarant i weithredu i adfer swm o arian:
| pan na fydd y swm sy'n cael ei adfer yn ddim mwy na £125 | £35 |
| pan fydd y swm i'w adfer yn fwy na £125 | £55 |
| Codi gwarant trosglwyddiad o nwyddau | £95 |
| Ailgodi gwarant i weithredu neu drosglwyddo mewn cyfeiriad newydd ac eithrio ar gyfer ymgais arall at orfodi yn dilyn gohiriad | £25 |
| Codi gwarant i adfer tir neu eiddo (meddiannu) | £95 |
Os yw gwarant i drosglwyddo nwyddau neu i adfer eiddo/tir hefyd yn cynnwys hawliad am arian, ni chodir ffi ychwanegol.
9b. Gorchymyn i gael gwybodaeth gan ddyledwr dyfarniad
| Cychwyn cais am orchymyn i gael gwybodaeth gan ddyledwr dyfarniad | £45 |
| Cychwyn cais am orchymyn atafaelu enillion | £65 |
Yn achos gorchymyn cydgyfnerthedig atalfaelu enillion, tynnir ffi o 10c am bob £1, neu ran o £1, o'r arian a delir i lys, o'r arian cyn ei dalu i'r credydwyr dan y gorchymyn.
| Cychwyn cais am orchymyn arwystlo | £55 |
9e. Gorchmynion dyled trydydd parti
| Cychwyn cais am orchymyn dyled trydydd parti (yn daladwy ar gyfer pob parti y gofynnir am orchymyn yn ei erbyn) | £55 |
| Cychwyn cais am wŷs dyfarniad | £95 |
10. Cofrestru dyfarniadau tribiwnlys
| Cofrestru dyfarniad (er enghraifft, dyfarniad gan dribiwnlys) i'w orfodi | £35 |
11. Canslo neu fodloni dyfarniadau'r llys sirol
| Gofyn am dystysgrif bodlonrwydd neu, gais am ganslo pan gaiff dyled ei thalu yn llawn o fewn un mis i ddyddiad ei chofnodi | £15 |
12. Methdaliad a chwmni'n dirwyn i ben
| Codi deiseb methdaliad ar gyfer eich busnes eich hun (deiseb dyledwr) | £150 |
|
Codi deiseb methdaliad yn erbyn rhywun sydd mewn dyled i chi (deiseb credydwr) |
£190 |
| Codi deiseb dirwyn-i-ben gyda golwg ar gwmni sydd mewn dyled i chi | £190 |
Ffioedd y llys yn unig yw'r rhain, bydd y llys yn gofyn am arian ychwanegol ar gyfer blaendal y Derbynnydd Swyddogol.
Holwch yn y llys faint yw'r blaendal cyn codi'r ddeiseb.
| Cais am dystysgrif rhyddhau o fethdaliad |
£60 |
| Ac ar ôl y dystysgrif gyntaf, am bob copi | £5 |
| Am chwiliad drwy'r cofnodion methdaliad a chwmnïau mewn llys sirol | £40 |
| Cais dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Ansolfedd 1986, pan na phennir unrhyw ffi arall | £130 |
| Troi trefniant gwirfoddol yn ddirwyn-i-ben neu'n fethdaliad | £130 |
| Cais am orchymyn yn cadarnhau dirwyn-i-ben gwirfoddol gan gredydwr | £30 |
Ar ffeilio:
| Hysbysiad o fwriad i benodi gweinyddwr | £30 |
| Hysbysiad o benodiad gweinyddwr | £30 |
Pan fydd person yn talu ffi wrth ffeilio hysbysiad o fwriad i benodi gweinyddwr, does dim rhaid talu ffi ychwanegol wrth ffeilio hysbysiad o benodiad y gweinyddwr hwnnw.
| Wrth gyflwyno adroddiad enwebai | £30 |
13. Sut galla i wneud taliad i'r llys?
Gallwch wneud taliad i'r llys gydag arian, siec neu archeb bost. Dylid gwneud y sieciau a'r archebion post yn daladwy i GLlEM. Sylwch na all llysoedd dderbyn taliadau gan ddefnyddio cardiau credyd a debyd.
Mae'r ffi y bydd rhaid i chi ei thalu i'r llys yn dibynnu ar y swm yr ydych chi'n ei hawlio, gan gynnwys llog.
14. Beth os na alla i fforddio'r ffi?
Nid oes raid i chi dalu ffi'r llys os byddwch yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol sy'n seiliedig ar brawf modd:
- Cymhorthdal Incwm; neu
- Credyd Gwarant Pensiwn y Wladwriaeth; neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm; neu
- os ydych chi'n cael Credyd Treth Gwaith heb yr elfen Credyd Treth Plant – bydd staff y llys yn esbonio hyn i chi; neu
- os bydd eich incwm gros blynyddol yn llai na swm penodedig. Gweler taflen EX160A am fwy o fanylion.
Os gallwch ddangos y byddai talu ffi i'r llys yn achosi caledi gormodol i chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael eich esgusodi rhag talu rhan o'r ffi. Bydd y swm y penderfynir arno yn seiliedig ar brawf modd manwl i asesu eich incwm gwario. Bydd staff y llys yn cyfrifo'r cyfraniad y dylech ei wneud tuag at y ffi.
I gael mwy o wybodaeth, neu i wneud cais am gael gostwng y ffi, gofynnwch i staff y llys am gopi o'r daflen a'r ffurflen EX160A - Ffioedd Llys - A oes rhaid i mi eu talu? Mae hon ar gael hefyd o swyddfa unrhyw lys sirol.
Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wahân am bob ffi sy'n daladwy.
