Mabwysiadu Rhyngwladol a Chytundeb yr Hâg 1993
Tudalen 12 o 14
Ymhle y gallaf gael copi o dystysgrif farwolaeth, tystysgrif briodas neu bartneriaeth sifil, neu dystysgrif geni lawn y plentyn os nad oes un gennyf?
Os priodwyd chi yng Nghymru neu Loegr, neu os cafodd y plentyn ei eni yng Nghymru neu Loegr, gallwch gael copi ardystiedig gan:
- Swyddfa’r Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau dros yr ardal lle cawsoch eich priodi neu’r ardal lle cafodd y plentyn ei eni. Gallwch gael y cyfeiriad o’r llyfr ffôn.
- Y Cofrestrydd Cyffredinol, ONS Southport, Smedley Hydro, Trafalgar Road, Birkdale, Southport, PR8 2HH.
- Ffôn: 0151 471 4830 – Adran Fabwysiadu
- Ffôn: 0151 471 4803 – Adran Briodasau
- Ffôn: 0151 471 4806 – Adran Genedigaethau
(Nodwch, os gwelwch yn dda, na chaniateir i chi ymweld â’r swyddfa hon).
Os cofrestrwyd eich partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr, dylech gysylltu â’r awdurdod cofrestru lle cofrestrwyd y bartneriaeth sifil.
Efallai y gallwch ddod o hyd i’r swyddfa gofrestru/awdurdod cofrestru perthnasol drwy ymweld â gwefan Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol yn http://www.gro.gov.uk/. Mae modd i chi hefyd gysylltu â’r Ganolfan Cofnodion Teuluol, 1 Myddleton Street, Llundain, EC1R 1UW (http://www.familyrecords.gov.uk/).
Os priodwyd chi neu os cofrestrwyd eich partneriaeth sifil yn Yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon neu os cafodd y plentyn yr ydych yn dymuno ei fabwysiadu ei eni yn un o’r gwledydd hyn, gallwch gael rhagor o wybodaeth gan:
- The General Register Office for Scotland, New Register House, 3 West Register Street, Caeredin, EH1 3YT (Rhif Ffôn: 0131 334 0380) neu
- The General Register Office, Oxford House, 49-55 Chichester Street, Belfast, BT1 4HL (Rhif Ffôn – 028 902 52000)
Cofiwch: Bydd rhaid i chi dalu ffi er mwyn cael copi o dystysgrif. Bydd y swyddfa y cysylltwch â hi yn dweud wrthych faint yw’r ffi.
