Achosion Mabwysiadu - Trefn Newydd
Tudalen 1 o 4
Atodiad Mabwysiadu Rhyngwladol: Mehefin 2003
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Cyflwyniad
Ym mis Hydref 2001, cyhoeddodd Llywydd yr Adran Deulu, gyda chymeradwyaeth yr Arglwydd Ganghellor, y cyfarwyddyd dan y teitl "Achosion Mabwysiadu - Trefn Newydd". Bwriad y cyfarwyddyd hwn yw lleihau'r oedi a'r aneffeithlonrwydd mewn achosion mabwysiadu yn y llys a gwella'r gwasanaeth i bawb mewn achosion mabwysiadu.
Ar ôl rhoi adrannau pellach Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 ar waith yn ddiweddar a dilysu Confensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Cydweithredu gyda golwg ar Fabwysiadu Rhyngwladol 1993, mae'r atodiad hwn a gyhoeddwyd gan Lywydd yr Adran Deulu, yn amlinellu'r newidiadau hynny i'r canllawiau a fydd yn berthnasol pa bryd bynnag y gwneir cais am fabwysiadu rhyngwladol.
Dylid defnyddio'r atodiad mewn ffordd hyblyg a'i gymhwyso i amrywiaeth eang o achosion mabwysiadu rhyngwladol - rhai sy'n cael eu gwrthwynebu a'r rhai nad ydynt. Dylid eu darllen ar y cyd â'r canllawiau blaenorol a bydd yn berthnasol i bob cais mabwysiadu rhyngwladol a gyhoeddwyd ar neu ar ôl 1af Mehefin 2003.
