English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canfod Llys Mabwysiadu Ffioedd y Llys Teulu

Adnoddau pellach

CAFCASS Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymdeithas Brydeinig Mabwysiadu a Maethu Llinell Wybodaeth Mabwysiadu a Maethu Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

Mabwysiadu: Arweiniad i Ddefnyddwyr y Llysoedd


Tudalen 1 o 13

Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.

I bwy y mae'r daflen hon?

Bwriedir y daflen hon ar gyfer unrhyw un sy'n meddwl am wneud cais i lys am orchymyn mabwysiadu dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (a ddaeth i rym ar 30 Rhagfyr 2005). Y mae hefyd i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol ym meysydd materion cyfreithiol a gofal plant sy'n gysylltiedig â'r broses fabwysiadu.

Mae'r daflen yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ynghylch pwy gaiff fabwysiadu plentyn, pa wybodaeth fydd y llys ei hangen, a sut bydd y llys yn ymdrin â'ch cais. Fe'i bwriedir fel canllaw yn unig. Nid yw'n rhoi cyngor i chi ynglŷn â phenderfynu a ydych am fabwysiadu plentyn ai peidio ac nid yw'n ddatganiad cyflawn o'r gyfraith, ac nid yw chwaith yn ymdrin â'r holl benderfyniadau ynghylch mabwysiadu y gall y llysoedd eu gwneud dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Nid yw'r daflen hon yn ymdrin â mabwysiadu plant o wledydd tramor. Os ydych yn meddwl mabwysiadu plentyn y mae ei gartref parhaol y tu allan i'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw gellir cael cyngor gan:

Mae taflen A21 Mabwysiadu Rhyngwladol – cyfarwyddyd, hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth am fabwysiadu plentyn o wlad dramor.



Nesaf>>


<<Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 30 October 2006 13:01. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .