Plant ac ysgariad
Tudalen 1 o 8
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Beth ddylwn i wneud cyn cychwyn deiseb?
Cyn i chi ddechrau deiseb, dylech ddarllen y canllawiau yn yr adrannau Ynglŷn ag ysgariad a Rwyf am gael ysgariad - beth sydd i'w wneud?
Fydd y llys am ystyried pob un o blant y briodas?
Na fydd, dim ond y rhai sy'n dal i fod ag angen eich gofal a'ch cefnogaeth ariannol oherwydd eu hoed a'u hamgylchiadau. Wrth lenwi paragraff 4 eich deiseb, rhaid i chi enwi pob plentyn byw sydd yn y teulu, waeth beth yw eu hoed. Gweler y daflen Rwyf am gael ysgariad - beth sydd i'w wneud?
Bydd y llys am ystyried unrhyw blentyn a anwyd i chi a'r atebydd neu unrhyw blentyn rydych chi wedi'i drin fel petai wedi'i eni i chi, sydd:
- o dan 16; neu
- rhwng 16 ac 18 ac yn dal i fod yn fyfyriwr llawn-amser yn yr ysgol neu'r coleg.
Gelwir y plant hyn yn "blant y teulu".
Mae hyn yn cynnwys plant y mae'r ddau ohonoch chi wedi'u mabwysiadu. Nid yw'n cynnwys plant maeth.
ô
