Plant a'r llysoedd teulu
Tudalen 2 o 11
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ofyn i swyddog llys am wybodaeth ond cofiwch nas caniateir i staff llys eich cynghori ynghylch beth i'w wneud yn eich achos chi.
Mae nifer o lyfrynnau a thaflenni rhad ac am ddim ar gael a fydd yn dweud wrthych am y Ddeddf Plant. Mae'r rhain wedi'u rhestru yn y blwch isod. Os na fedrwch gael gafael ar gopi, mae'n bosibl y bydd copi ar gael mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth neu mewn llyfrgell gyhoeddus.
Cael cyngor yn eich achos chi
Gallwch gael y cyngor hwn gan:
- dwrnai. Mae rhai twrneiod yn arbenigo mewn gwaith sy'n ymwneud â'r Ddeddf Plant a gallwch gael enw a chyfeiriad twrnai: gan 'Banel Plant' Cymdeithas y Cyfreithwyr (020 7242 1222) neu 'Yellow Pages', neu yng Nghyfeirlyfr Rhanbarthol y Cyfreithwyr. Mae'n bosibl y bydd y llyfrau hyn ar gael mewn llyfrgell gyhoeddus.
- mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth
- mewn canolfan cyngor cyfreithiol, neu ganolfan gyfraith
Llyfrynnau a thaflenni
- Y Ddeddf Plant a'r Llysoedd: Arweiniad i bobl ifanc
- Y Ddeddf Plant a'r Llysoedd: Arweiniad i rieni
- Y Ddeddf Plant a Chi (Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael y rhain o lys. Os na allwch, anfonwch am gopi i'r cyfeiriad a ganlyn: BAPS, Health Publications Unit, Heywood Stores, Manchester Road, Heywood, Lancashire OL10 2PZ)
- Plant ac ysgariad (Gallwch gael y daflen hon o lys sirol)
- Arweiniad i'r Ddeddf Plant: ar gyfer rhieni a phlant (Gallwch gael y daflen hon gan: The Council for Family Proceedings, University of Bristol, Rodney Lodge, Grange Road, Bristol BS8 4EA)
|
|
^ Brig
|
