Y trac cyflym a'r drefn aml-drac
Tudalen 1 o 16
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf PDF hefyd.
Mae achosion yn y llysoedd sirol yn cael eu pennu i un o dre traciau: yr Aml-Drac, Trac Cyflym neu'r Trac Hawiadau Bach.
Mae'r daflen hon yn esbonio i chi pa fath o achosion sy'n gallu cael eu dyrannu i'r trac cyflym a'r drefn aml-drac, a sut yr ymdrinnir ag achosion yn y traciau hynny.
Efallai y bydd yn help i chi i ddechrau i ddarllen y daflen Mae'r diffynnydd yn gwrthwynebu'r cyfan neu ran o fy hawliad sy'n esbonio sut mae'r broses ddyrannu'n dechrau.
Cofiwch mai ond syniad cyffredinol am beth sy'n debygol o ddigwydd sydd yn y daflen hon a thaflenni eraill. Does dim modd iddyn nhw esbonio popeth am reolau'r llys, y costau a'r trefniadau a all effeithio ar wahanol fathau o hawliad mewn gwahanol ffyrdd.
Os yw swm eich hawliad yn awgrymu y gellid ei ddyrannu i'r trac cyflym neu i'r drefn aml-drac, dylech geisio cyngor gan dwrnai, Canolfan Gyfraith neu asiantaeth cynghori. Nid yw'r drefn ar gyfer y traciau hyn yn syml a gan amlaf, bydd y ddau'n arwain at dreial ffurfiol mewn llys agored y caiff aelodau'r cyhoedd ddod iddo.
Hyd yn oed os ydych yn teimlo y gallwch gyflwyno'ch achos eich hun gerbron barnwr yn y llys, mae'n bosibl y gwelwch fod angen rhywfaint o help proffesiynol arnoch gyda'r gwaith paratoi sydd ei angen cyn y treial. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, dylech ofyn, pan fyddwch yn ceisio cyngor, oes gennych chi'r hawl i gael help twrnai am ddim neu drwy dalu cyfraniad bychan. Hefyd, bydd rhai twrneiod yn barod i drin eich hawliad ar sail 'dim ennill, dim ffi'.
Fel rheol gyffredinol, ar gyfer y naill drac a'r llall, byddai'r sawl sy'n ennill gan amlaf yn gallu disgwyl adennill peth o'u costau, gan gynnwys costau eu twrnai, gan y sawl sy'n colli.
Os bydd rhywun yn gwrthwynebu ('amddiffyn') hawliad, anfonir copi o amddiffyniad y diffynnydd a Ffurflen N150 (holiadur dyrannu) atoch. Bydd y wybodaeth a rowch yn yr holiadur yn help i'r barnwr benderfynu pa drac sydd fwyaf addas i'ch achos. Fe gewch chi, a'r diffynnydd, fynegi'ch barn. Ond rhaid i chi ddeall, er y bydd y barnwr yn rhoi sylw i'ch barn chi ac i farn y diffynnydd, ef/hi fydd yn penderfynu.
