Y trac hawliadau bach
Tudalen 1 o 16
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Dyrennir achosion yn y llysoedd sirol i un o dri thrac: yr Aml-drac, y Trac Cyflym neu'r Trac Hawliadau Bach.
Mae'r trac hawliadau bychain yn cynnig ffordd rwydd ac anffurfiol o ddatrys anghydfodau. Dylech allu gwneud hyn heb ddefnyddio twrnai. Mae'r daflen hon yn esbonio i chi pa fath o achosion sy'n gallu cael eu dyrannu i'r trac hwn a sut y bydd achosion yn cael eu trin yn y trac hawliadau bychain. Cyn cychwyn hawliad dylech ddarllen y canllawiau Yn gwneud hawliad? Ambell gwestiwn i chi ofyn i chi'ch hyn. Mae'n rhoi'r atebion i'r cwestiynau hynny a ddylai eich helpu i benderfynu a yw hi'n werth i chi fynd i'r llys. Mae hefyd yn tynnu sylw at sawl ffordd wahanol o ddatrys anghydfodau heb orfod mynd i'r llys. Efallai y bydd yn help i chi hefyd ddarllen y daflen Mae'r diffynnydd yn gwrthwynebu'r cyfan neu ran o fy hawliad - sy'n esbonio sut mae'r broses ddyrannu'n dechrau.
Cofiwch mai ond syniad cyffredinol am beth sy'n debygol o ddigwydd sydd yn y daflen hon a thaflenni eraill. Does dim modd iddyn nhw esbonio popeth am reolau'r llys, y costau a'r trefniadau a all effeithio ar wahanol fathau o hawliad mewn gwahanol ffyrdd.
Os bydd rhywun yn gwrthwynebu ('amddiffyn') hawliadu ac os yw hi'n ymddangos mai'r trac hawliadau bychain yw'r trac mwyaf cyfiawn a chost-effeithiol ar gyfer eich hawliad, defnyddiwch yr holiadur yn Ffurflen N149 Holiadur Dyrannu (Trac hawliadau bychain). Fel arall, fe anfonir atoch gopi o amddiffyniad y diffynnydd ynghyd â Ffurflen N150 (holiadur dyrannu). Pa holiadur bynnag a anfonir atoch, bydd y wybodaeth a roddwch ynddo yn helpu'r barnwr i benderfynu ar y trac mwyaf addas i'ch hawliad chi. Bydd y wybodaeth a rowch chi yn yr holiadur yn help i'r barnwr benderfynu pa drac sydd fwyaf addas i'ch achos. Os ydych chi'n teimlo bod eich achos yn un y dylid ei drin fel hawliad bach yn y trac hawliadau bychain, dylech nodi hynny yn yr holiadur. Fodd bynnag, rhaid i chi ddeall, er y bydd y barnwr yn rhoi sylw i'ch barn chi a barn y diffynnydd, mater iddo ef/hi yw penderfynu.
