Mae'r diffynnydd yn gwrthwynebu'r cyfan neu ran o fy hawliad
Tudalen 1 o 10
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf PDF hefyd.
Mae'r daflen hon yn esbonio beth fydd yn digwydd os bydd y diffynnydd yn gwrthwynebu ('amddiffyn') y cyfan neu ran o'ch hawliad. Mae hefyd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd os bydd y diffynnydd yn dweud bod yr arian wedi'i dalu eisoes. Mae'r daflen hon hefyd yn sôn am daflenni eraill a all fod o ddefnydd i chi. Mae'r rhain ar gael gan swyddfa unrhyw lys sirol.
Cofiwch mai ond syniad cyffredinol am beth sy'n debygol o ddigwydd sydd yn y daflen hon a thaflenni eraill. Does dim modd iddyn nhw esbonio popeth am reolau'r llys, y costau a'r trefniadau a all effeithio ar wahanol fathau o hawliad mewn gwahanol ffyrdd.
Beth os yw'r diffynnydd yn dymuno amddiffyn fy hawliad cyfan?
O fewn 14 diwrnod ar ôl i'r diffynnydd dderbyn manylion eich hawliad (ar ôl iddyn nhw gael eu 'cyflwyno' iddo), rhaid i'r diffynnydd anfon i'r llys (sef 'ffeilio') naill ai;
- cydnabyddiad cyflwyno; neu
- amddiffyniad.
