Adran Droseddol Y Llys Apêl
Bydd y Swyddfa Apêl Droseddol yn cyflawni'r safonau gwasanaeth cyffredinol a nodir isod.
Bydd safonau perfformio penodol yn cael eu harddangos ym mhob ardal fusnes.
Dod i'r Llys
Pan gyrhaeddwch y Llys, fe welwch:
- Staff sy'n foneddigaidd ac yn gymwynasgar, a byddant yn gwisgo bathodynnau enw i ddweud pwy ydynt.
- Hysbysiad yn nodi enw a rhif ffôn y Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid, a fydd yn gallu'ch helpu chi os oes gennych unrhyw anghenion arbennig neu unrhyw awgrymiadau ynghylch gwella ein gwasanaeth.
Bydd ein cownteri i'r cyhoedd ar agor rhwng 10am a 4.30pm.
Pan fyddwch yn mynd at y cownter gyhoeddus neu at bwynt ymholi mewn unrhyw Lys:
- Byddwn yn parchu eich preifatrwydd;
- Byddwn yn siarad â chi os mai dyna yw eich dymuniad, mewn man lle na all aelodau eraill o'r cyhoedd eich clywed;
- Byddwn yn delio â'ch cwestiwn o fewn 15 munud. Os bydd rhaid i chi aros yn hwy na hynny, bydd aelod o'r staff yn esbonio pam fod oedi.
- Bydd staff y llys yn falch o roi cyngor i chi am y trefniadau gweinyddol a'ch helpu wedyn i lenwi'r ffurflenni angenrheidiol. Fodd bynnag, ni fydd staff yn rhoi cyngor cyfreithiol i chi nac yn mynegi barn am benderfyniadau barnwrol. Os oes angen cyngor cyfreithiol ar gwsmer, byddwn yn eu hysbysu y dylent fynd at dwrnai, at y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth, neu at asiantaeth cynghori arall.
Cyfathrebu gyda'r Llys
Gallwch ein ffonio ni rhwng 9.00am a 5.00pm
Pan fyddwch yn ein ffonio:
- Byddwn yn ateb y ffôn o fewn 30 eiliad;
- Byddwn yn dweud wrthych pwy sy'n siarad â chi; ac
- Yn rhoi ateb clir a fydd o gymorth i chi.
Pan fyddwch yn ysgrifennu at y Llys, a bod gofyn i ni ateb;
- Byddwn yn anfon ateb neu'n ateb eich llythyr dros y ffôn, fel arfer o fewn 5 diwrnod gwaith ond fan bellaf o fewn 10 diwrnod gwaith i'w dderbyn;
- Os oes angen ateb ysgrifenedig, bydd yn cynnwys enw'r awdur a'i rif ffôn.
Os gwneir gorchymyn yn eu hachos:
- Byddwn yn anfon copi o'r gorchymyn fel arfer o fewn 5 diwrnod ond fan bellaf o fewn 10 diwrnod gwaith i'r adeg y gwneir y gorchymyn; neu
- Os yw'r gorchymyn i'w ddrafftio gan gwnsler, byddwn yn anfon copi wedi'i selio o'r gorchymyn atoch, gan amlaf o fewn 5 diwrnod ond fan bellaf o fewn 10 diwrnod i'r adeg y derbynnir y gorchymyn drafft.
^ Brig
|
