Adran Sifil y Llys Apêl
Rhagair gan Feistr y Rholiau
Galwyd y Llys Apêl yn 'stafell injan' ein system farnwrol yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gwrando apeliadau ym mhob un o'n prif achosion ym maes cyfiawnder sifil a theulu.
Mae ei farnwyr yn ymwneud â sicrhau mai grym y gyfraith sy'n rheoli. Rydym yn awyddus hefyd i wneud ein gorau glas i sicrhau bod ein trefniadau'n hawdd eu defnyddio ac yn hawdd eu deall.
Yma, fe welwch gyfoeth o wybodaeth am y Llys, ei Farnwyr, ei brosesau a'r mannau lle mae help ar gael.
Blwyddyn galendr y Llys Apêl
Rhennir blwyddyn galendr Y Llys Apêl yn bedwar tymor. Gan amlaf, gwrandewir gwrandawiadau yn y Llys Apêl yn ystod naw mis calendr ond mae'r Llys hefyd yn eistedd yn ystod y gwyliau rhwng y tymhorau.
Dyddiadau'r tymhorau ar gyfer 2007
- Tymor Mihangel - dydd Llun 1af Hydref 2007 i dydd Gwener 21ain Rhagfyr 2007.
- Tymor Hilari - dydd Gwener 11eg Ionawr 2008 i dydd Mercher 19eg Mawrth 2008.
- Tymor y Pasg - dydd Mawrth 1af Ebrill 2008 i dydd Gwener 23ain Mai 2008.
- Tymor y Drindod - dydd Mawrth 3ydd Mehefin 2008 i dydd Iau 31ain Gorffennaf 2008.
Ffurflen adborth y Llys Apêl
Croesawn eich sylwadau ar y wefan yn fawr, ac anogwn chi i lenwi'n ffurflen adborth (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg). Caiff unrhyw wybodaeth neu sylwadau a roddwch eu defnyddio i'n helpu i wella'r wefan. Ni ddefnyddiwn y wybodaeth hon ar gyfer unrhyw ddiben arall.
