English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ffioedd y Llys Sirol Gorfodi Dyfarniad

Adnoddau pellach

Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Canolfan Cyngor ar Bopeth Registry Trust Cyfyngedig Y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Swyddfa Masnachu Teg

Ynglŷn â Dyfarniadau


Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall dyfarniad llys sirol effeithio ar eich statws credyd a beth y dylech ei wneud.

Os bydd llys sirol wedi gorchymyn i chi dalu swm o arian (a elwir yn 'gofnodi dyfarniad yn eich erbyn') bydd manylion y dyfarniad fel arfer yn cael eu cofnodi ar Gofrestr dyfarniadau'r llys sirol (a elwir yn 'gofrestru').

Os telir y ddyled o fewn mis i'r dyfarniad, gellir canslo'r cofrestriad. Os telir y ddyled ar ôl mis, mae modd gwneud cais am nodi 'cyflawnwyd' ar y cofnod yn y Gofrestr. Rhaid gwneud cais am ganslo cofrestriad neu am gael nodi 'cyflawnwyd' ar y cofnod i'r llys sirol ac, wrth wneud hynny, rhaid darparu prawf a thalu ffi fechan.

Bydd y rhan fwyaf o'r cofnodion yn aros ar y Gofrestr am chwe blynedd lawn.

Mae sefydliadau megis banciau, cymdeithasau adeiladau a chwmnïau credyd yn defnyddio'r wybodaeth ar y Gofrestr pan fydd rhywun yn gwneud cais am gredyd megis benthyciad neu orddrafft. Mae hyn yn help iddynt benderfynu a fyddai'r person hwnnw'n gallu talu'r credyd ai peidio.



Dyfarniadau Cofrestredig - Beth yw ystyr hynny?
(Taflen EX320)

Talu fy nyfarniad - beth ddylwn i ei wneud?
(Taflen EX20)

Alla' i ddim talu fy nyfarniad - beth ddylwn i ei wneud?
(Taflen EX326)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 18 October 2005 16:06. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .