Newyddion
Rhestrir yma yr holl eitemau newyddion a gyhoeddwyd ers creu GLlEM ar 1 Ebrill 2005. (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).
Mae eitemau Beth sy'n newydd i'w gweld yma hefyd
Newyddion diweddar
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill | Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr
Awst
28 Awst 2008
Ailddatblygu Canolfan Llysoedd Cyfunedig Merthyr Tudful
Mae'r swyddfeydd yn Llys y Goron, Llys Sirol a Llys Ynadon Merthyr Tudful wedi bod ar gau er mis Awst 2007 er mwyn gallu cynnal gwaith adeiladu sylweddol yno. Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo a disgwylir y bydd y contractwyr yn trosglwyddo'r adeilad yn ôl ar 28 Medi. Bydd Canolfan Llys Cyfunedig Merthyr Tudful yn agor ar gyfer busnes y llys ar y 2 Tachwedd 2008. Bydd rhestru ar gyfer achosion llys sirol yn dechrau ym Merthyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a bydd dyddiad pan fydd rhestru ar gyfer achosion llys ynadon yn cael ei gyhoeddi.
Tan Hynny:
Llys Sirol
Dylid parhau i anfon gohebiaeth i Lys Sirol Merthyr Tudful, Y Llysoedd Barn, Glebeland Place, Merthyr Tudful, CF47 8BH. Rhif DX 99582 Merthyr Tudful 2. Caiff yr holl bost ei ailgyfeirio.
Mae modd cysylltu â Llys Sirol Merthyr Tudful dros y ffôn ar naill ar 01443 490808 neu 01685 358200. Mae'r rhif ffacs 01685 359727 yr un fath.
Cynhelir pob gwrandawiad yn Llys Sirol Pontypridd, Y Cwrt, Stryd y Cwrt, Pontypridd CF37 1JR.
Ymdrinnir ag ymholiadau dros y cownter yn Llys Sirol Pontypridd gan staff Llys Sirol Merthyr Tudful.
Llys y Goron
Caiff yr holl waith Llys y Goron ei drin gan Llys y Goron Caerdydd yn y cyfeiriad canlynol;
Llys y Goron Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3PG rhif ffôn 02920 678730, rhif ffacs 02920 678731.
Y Llys Ynadon
Caiff yr holl waith Llys Ynadon ei drin gan Ynadon Aberdâr a Phontypridd yn y cyfeiriadau canlynol;
Llys Ynadon Aberdâr, Heol Cwmbach, Aberdâr, CF44 0NW, rhif ffôn 01685 721731, rhif ffacs 01685 723919.
Llys Ynadon Pontypridd, Stryd yr Undeb, Pontypridd, CF37 1SD, rhif ffôn 01443 480750, rhif ffacs 01443 485472.
Mehefin
Ailddatblygu Canolfan Llysoedd Cyfunedig Merthyr Tudful
19 Mehefin 2008
Mae'r swyddfeydd yn Llys y Goron, Llys Sirol a Llys Ynadon Merthyr Tudful wedi bod ar gau er mis Awst 2007 er mwyn gallu cynnal gwaith adeiladu sylweddol yno. Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo a disgwylir y bydd y contractwyr yn trosglwyddo'r adeilad yn ôl ar 5ed Medi. Bydd busnes arferol yn ailddechrau yn Llysoedd Cyfun Merthyr Tudful ar ddyddiad a gaiff ei gadarnhau, mae dechrau mis Hydref yn debygol.
Llys Sirol
Dylid parhau i anfon gohebiaeth i Lys Sirol Merthyr Tudful, Y Llysoedd Barn, Glebeland Place, Merthyr Tudful,
CF47 8BH. Rhif DX 99582 Merthyr Tudful 2. Caiff yr holl bost ei ailgyfeirio.
Mae modd cysylltu â Llys Sirol Merthyr Tudful dros y ffôn ar naill ar 01443 490808 neu 01685 358200.
Mae'r rhif ffacs 01685 359727 yr un fath.
Cynhelir pob gwrandawiad yn Llys Sirol Pontypridd, Y Cwrt, Stryd y Cwrt, Pontypridd CF37 1JR.
Ymdrinnir ag ymholiadau dros y cownter yn Llys Sirol Pontypridd gan staff Llys Sirol Merthyr Tudful.
Llys y Goron
Caiff holl waith Llys y Goron ei drin gan Llys y Goron Caerdydd yn y cyfeiriad canlynol;
Llys y Goron Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3PG rhif ffôn 029 20 414400, rhif ffacs 029 20 414441.
Y Llys Ynadon
Caiff holl waith Llys Ynadon ei drin gan Ynadon Aberdâr a Phontypridd yn y cyfeiriadau canlynol;
Llys Ynadon Aberdâr, Heol Cwmbach, Aberdâr, CF44 0NW, rhif ffôn 01685 721731, rhif ffacs 01685 723919.
Llys Ynadon Pontypridd, Stryd yr Undeb, Pontypridd, CF37 1SD, rhif ffôn 01443 480750, rhif ffacs 01443 485472.
Ebrill
Newidiadau i EX160A Ffioedd Llys - Oes rhaid i chi eu talu? ( 198.55Kb)
Newidiadau i Ffioedd Cyfraith Gyhoeddus Teulu ( 204.54Kb)
Archif
2006
2005
