Gwasanaeth rheithgor
Efallai eich bod yn un o’r llawer o bobl sy’n cael eu dewis i wneud gwasanaeth rheithgor. Mae rheithgor yn cynnwys 12 aelod o'r cyhoedd a ddewisir ar hap. Fel arfer, bydd rheithwyr yn gwrando’r achosion troseddol mwy difrifol megis llofruddiaeth, trais rhywiol, ymosod, byrgleriaeth neu dwyll. Cynhelir y treialon hyn yn Llys y Goron.
Mae cael gwys rheithgor yn golygu ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i chi fynd i'r llys. Peidiwch â phoeni am hyn, mae'r rhan fwyaf o bobl yn goresgyn eu pryder cychwynnol ac yn credu bod gwasanaeth rheithgor yn ddiddorol ac yn rhoi boddhad.
Mae gwasanaethu ar reithgor yn un o'r dyletswyddau dinesig pwysicaf y gofynnir i unrhyw un ei wneud. Fel rheithiwr, fe gewch gyfle i chwarae rhan allweddol yn y system gyfreithiol. Does dim angen i chi feddu ar ddim gwybodaeth am y system gyfreithiol. Gofynnir i bob rheithiwr unigol ystyried y dystiolaeth a gyflwynir ac yna penderfynu a yw’r diffynnydd yn euog ynteu’n ddieuog.
Am ba mor hir y mae'n debygol y byddwch yn gwasanaethu
Fel rheithiwr, fel arfer, gofynnir i chi wasanaethu am gyfnod o ddeg diwrnod gwaith, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe allech eistedd ar fwy nag un achos. Os bydd treial yn cymryd mwy o amser, bydd disgwyl i'r rheithgor eistedd ar gyfer yr holl dreial, fodd bynnag, cewch wybod hyd y treial ar y dechrau. Os bydd unrhyw amgylchiadau eithriadol a fydd yn eich atal rhag gwasanaethu am gyfnod hwy, bydd angen i chi roi gwybod i'r llys cyn eistedd ar banel y rheithgor.
Rheithgor Sifil, Rheithgor yr Uchel Lys a Rheithgor y Crwner
Weithiau bydd angen rheithwyr mewn treialon sifil ar gyfer achosion megis enllib. Ni fydd hyn yn digwydd yn aml. Pan ddigwydd hyn, cynhelir y treial fel arfer yn yr Uchel Lys neu mewn llys sirol. Weithiau bydd angen rheithwyr mewn llysoedd y Crwner hefyd.
Bydd gan reithiwr mewn achos sifil neu achos crwner swyddogaeth debyg i reithiwr mewn achos troseddol ond ceir ambell i wahaniaeth pwysig. Esbonnir y rhain i chi os byddwch chi’n rheithiwr mewn treialon penodol.
Rhagor o gefnogaeth
I’r rhan fwyaf o bobl, mae gwasanaethu ar reithgor yn ddiddorol ac yn rhywbeth na fyddan nhw ond yn ei wneud unwaith neu ddwy yn eu hoes. Fodd bynnag, fe all y teithio ychwanegol neu’r cyfrifoldeb fod yn straen. Cofiwch na fyddwch ar eich pen eich hun fel rheithiwr, ac, os cewch unrhyw anhawster, gallwch siarad â staff y llys.
Gallwch holi'r Llys y Goron y gofynnwyd i chi wasanaethu ynddo am fwy o wybodaeth am eich gwasanaeth rheithgor. Bydd y staff yno’n gallu rhoi gwybodaeth i chi am gyfleusterau’r llys a hefyd am hawlio costau teithio a chostau eraill.
Ar eich diwrnod cyntaf o wasanaeth rheithgor bydd aelod o staff GLlEM ar gael i ateb unrhyw ymholiadau a fydd gennych o bosibl a byddant hefyd yn dangos fideo i chi am y gwasanaeth rheithgor. Gellir gwylio'r fideo hwn ar-lein hefyd.
Gwylio fideo'r gwasanaeth rheithgor (ar wefan DirectGov)
