Y Llys Sirol
Mae'r Llys Sirol, y cyfeirir ato'n aml fel y Llys Hawliadau Bychain, yn delio gyda materion sifil, megis:
- Hawliadau am ad-dalu dyledion, gan gynnwys gorfodi gorchmynion llys a dychwelyd nwyddau a brynwyd ar gredyd,
- Anaf Personol
- Tor-contract mewn perthynas â nwyddau neu eiddo
- Materion teulu megis ysgaru neu fabwysiadu
- Anghydfodau yn ymwneud â thai, gan gynnwys ôl-ddyledion morgais a rhent cyngor a meddiannu.
Yng Nghymru a Lloegr mae 216 Llys Sirol sy'n ymdrin â phob achos cyfraith sifil ar wahân i'r rhai mwyaf cymhleth.
Mae'r rhan fwyaf o'r achosion yn y Llys Sirol rhwng pobl neu gwmnïau sy'n credu fod ar rywun arian iddynt. At ei gilydd, mae hawliadau am symiau bychain yn syml ac fel arfer does dim rhaid i'r rhai cysylltiedig ddefnyddio twrneiod.
Mewn rhai amgylchiadau, gellir gwrando ar gynadleddau rheoli achosion a cheisiadau eraill, lle bynnag y bo'n briodol, trwy gynhadledd teleffôn. I wneud hyn, dylai'r partïon neu eu cynrychiolydd cyfreithiol wneud trefniadau gyda'r llys perthnasol.
Gellir cael ffurflenni i gychwyn hawliad oddi wrth unrhyw Lys Sirol ac mae staff yn hapus i roi arweiniad ar sut i'w llenwi. Fodd bynnag, ni allant roi cyngor cyfreithiol, ond mae cyngor rhad ac am ddim ar gael mewn canolfannau cyfraith a Chanolfannau Cyngor ar Bopeth. Mae rhai ffurflenni ar gael ar y wefan hon a gellir eu llenwi a'u hanfon i'ch Llys Sirol agosaf. Erbyn hyn gellir llenwi a chyflwyno rhai ffurflenni ar-lein.
Bydd rhaid i chi dalu ffi i'r llys am gychwyn yr hawliad, ond bydd yn dibynnu ar y swm rydych chi'n ei hawlio.
Unwaith y bydd hawliad wedi'i gychwyn, anfonir copi at y diffynnydd yn eu gwahodd i ddweud a ydynt yn cytuno bod arnynt yr arian neu a ydynt am wrthwynebu'r hawliad. Os oes gwrthwynebiad, fel arfer gofynnir i'r ddau barti fynychu gwrandawiad gerbron barnwr. Bydd y gwrandawiad yn breifat ac anffurfiol.
Ar ôl y gwrandawiad, anfonir gorchymyn atoch, a elwir weithiau yn ddyfarniad, sy'n nodi penderfyniad y barnwr. Mae'r cyfan bron o ddyfarniadau sy'n ymwneud â thalu arian yn cael eu cofnodi ar Gofrestr Dyfarniadau'r Llys Sirol. Defnyddir y wybodaeth hon gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau credyd i archwilio sefyllfa gredyd unigolion a gall felly effeithio ar statws ariannol dyledwr.
Os nad yw diffynnydd yn talu'r ddyled unwaith y gorchmynnir ef i wneud hynny gan y Barnwr, gallwch ofyn i'r llys geisio adennill yr arian ar eich rhan gan orfodi'r dyfarniad.
