English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Cynllun Cyhoeddi - Rhan 1 Cynllun Cyhoeddi - Rhan 2 Deddf Rhyddid Gwybodaeth Mae canllaw ar gyfer defnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd (PDF 91Kb)

Adnoddau pellach

Cofrestr o Asedau Gwybodaeth Rhyddid Gwybodaeth Yr Archifau Cenedlaethol

Rhyddid Gwybodaeth


Cynllun Cyhoeddi - Rhan 1

Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

Cyflwyniad

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Cynllun Cyhoeddi

Perthynas gyda'r Gofrestr Asedau Gwybodaeth

Cyfrifoldeb dros y Cynllun Cyhoeddi

Cynllun Cyhoeddi: Cysylltu â Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

Codi tâl am gyhoeddiadau

Hawlfraint

Ceisiadau am wybodaeth dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Ceisiadau am wybodaeth bersonol: Deddf Diogelu Data 1998

Sylwadau a chwynion am y Cynllun Cyhoeddi

Adolygu'r Cynllun Cyhoeddi

Swyddogaeth Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Diben GLlEM yw gweinyddu cyfiawnder. Yr Asiantaeth sy'n gyfrifol am weinyddu'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr h.y. llys y Goron, y llys sirol, a'r llysoedd ynadon, ac mae'n darparu'r gwasanaethau angenrheidiol i'r farnwriaeth a defnyddwyr y llysoedd i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiduedd ac yn effeithlon. Fel y gangen allweddol o fewn yr Adran sy'n darparu gwasanaethau, mae GLlEM yn chwarae rhan bwysig wrth weithredu agenda'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer system gyfiawnder fodern.

^Brig

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn rhoi hawl gyffredinol i bobl weld pob math o wybodaeth sydd wedi'i chofnodi a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus: mae'n nodi'r eithriadau i'r hawl honno; ac yn rhoi nifer o ddyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus. Mae'r Ddeddf yn berthnasol i nifer enfawr o awdurdodau, gan gynnwys Adrannau'r Llywodraeth. Dan y Ddeddf mae gennych hawl i ofyn am wybodaeth a gedwir gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (onid yw'r wybodaeth yn cael ei heithrio'n benodol dan y Ddeddf):

  1. i gael gwybod trwy lythyr gan GLlEM a yw'n dal y  wybodaeth a ddisgrifiwyd gennych chi yn eich cais, ac
  2. os felly, i'r wybodaeth honno gael ei rhoi i chi.

Rhaid delio'n ddiymdroi â phob cais a hynny cyn pen 20 diwrnod gwaith. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu trefn apêl, lle gallwch wneud cais i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad ynghylch a lynwyd wrth ofynion y Ddeddf wrth ymdrin â'r cais penodol ai peidio.  Gan amlaf, ni fyddwn yn codi ffi am brosesu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff ymgeiswyr drafferthion wrth gyfathrebu ar bapur, gellir delio â'u ceisiadau dros y ffôn. Gwneir nodyn o'ch cais a darllenir hwnnw'n ei ôl i chi, er mwyn cadarnhau ein bod wedi cofnodi'ch cais yn iawn.

^Brig

Cynllun Cyhoeddi

Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 rhaid i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi -

pa gategorïau gwybodaeth y maent am eu cyhoeddi neu'n bwriadu'u cyhoeddi;

sut y cyhoeddir y wybodaeth neu sut y bwriedir ei chyhoeddi; ac
a yw'r deunydd ar gael neu a fwriedir iddo fod ar gael i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim neu am ffi.

Pwrpas y Cynllun Cyhoeddi yw sicrhau bod swm sylweddol o wybodaeth ar gael yn hwylus i'r cyhoedd, h.y. heb fod angen rhoi ystyriaeth benodol dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a rhoi gwybod i'r cyhoedd am faint o ddeunyddiau sydd ar gael. Ystyr 'ar gael yn hwylus' yw bod y wybodaeth ar gael ar wefan GLlEM, neu fod modd ei phrynu gan Lyfrfa Ei Mawrhydi (LlEM); ei bod ar gael mewn llyfrgell gyhoeddus neu y caiff ei darparu ar gais.

Mae Rhan 2 yn nodi'r categorïau gwybodaeth y mae GLlEM yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi, ar ba fformat y mae'r wybodaeth ac a yw'r wybodaeth ar gael am ddim ynteu a godir tâl amdani.

^Brig

Perthynas â'r Gofrestr Asedau Gwybodaeth

Mae modd cael gwybodaeth am GLlEM hefyd trwy'r Gofrestr Asedau Gwybodaeth. Mae'r Gofrestr yn rhoi manylion asedau gwybodaeth y Llywodraeth, y gellir eu defnyddio dan drwydded. Mae'r Gofrestr yn canolbwyntio'n bennaf ar ddata a gedwir ond sydd heb ei gyhoeddi ac felly, mae'n darparu arweiniad i'r adnoddau gwybodaeth sydd heb eu cyhoeddi ond sydd ym meddiant Adrannau. Gall y Gofrestr helpu i ganfod pa wybodaeth sydd gan Adran; pa mor ddefnyddiol yw'r wybodaeth honno; a sut mae cael gafael arni. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestr Asedau Gwybodaeth a'r cysylltiadau â Chynlluniau Cyhoeddi, gweler nodyn cyfarwyddyd 18 LlEM sydd ar gael ar wefan LlEM.

Mae pob Adran yn gyfrifol am greu ei chofnodion o fewn ei Chofrestr Asedau Gwybodaeth Adrannol ei hun. Cynhwysir y rhain wedyn yng Nghofrestr Asedau Gwybodaeth Ganolog LlEM. Mae'r Gofrestr Asedau Gwybodaeth Ganolog yn cwmpasu holl Adrannau'r Llywodraeth a chyrff eraill y goron a gellir ei gweld ar wefan LlEM.

^Brig

Cyfrifoldeb dros y Cynllun Cyhoeddi

Y Cyfarwyddwr Polisi Gwasanaeth, Teulu a Sifil, sy'n bennaf gyfrifol am Gynllun Cyhoeddi GLlEM. Y sawl sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Cynllun Cyhoeddi GLlEM yw: -

Mossan Hassan
Gweinyddiaeth Cyfiawnder
Uned Hawliau Mynediad, Llawr 1af
Clive House
70 Petty France Lane
Llundain SW1H 9HD

^Brig

Cynllun Cyhoeddi: Cysylltu â'r Adran

Os hoffech dderbyn copi caled o unrhyw un o'r cyhoeddiadau yn y Cynllun Cyhoeddi, ffoniwch neu ysgrifennwch at GLlEM, a fydd yn anfon eich cais ymlaen at y maes busnes priodol:

HM Courts Service Customer Service Unit
6th Floor
70 Petty France
Llundain SW1H 9HD
Ffôn:  020 7189 2000

Neu anfonwch e-bost at: customerservicecshq@hmcourts-service.gsi.gov.uk

^Brig

Codi tâl am gyhoeddiadau

 Yn Rhan 2, nodir ar gyfer pob categori, a yw'r categori'n cynnwys gwybodaeth y codir tâl amdani ai peidio. Gall un o'r categorïau canlynol fod yn berthnasol:

  1. Yn ddi-dâl ar y wefan (h.y. ni chodir tâl gennym ni ond byddai'n rhaid i'r defnyddiwr, wrth gwrs, dalu costau darparwr ei wasanaeth Rhyngrwyd, costau argraffu personol ac ati) ar gyfer y rheini na allant fynd ar y We byddai un allbrint o'r wefan ar gael iddynt drwy'r post o'r cyfeiriad cyswllt uchod. Fodd bynnag, mae'n bosib y codir tâl am geisiadau am sawl allbrint neu am gopïau archif o ddogfennau nad ydynt ar gael mwyach ar y we a byddai'r tâl hwnnw ar gyfer costau adfer, llungopïo, postio ac ati. Byddem yn dweud wrthych faint fyddai'r tâl adeg eich cais a byddai'n rhaid ei dalu ymlaen llaw;
  2. Copi caled am ddim. Taflen, llyfryn neu allbrint oddi ar fewnrwyd GLlEM. Byddai un copi ar gael drwy'r post o'r cyfeiriad cyswllt uchod. Fodd bynnag, mae'n bosib y codir tâl am geisiadau am sawl allbrint er mwyn talu ar gyfer costau adfer, llungopïo, postio ac ati. Byddem yn dweud wrthych adeg eich cais beth fyddai'r tâl perthnasol a byddai'n rhaid ei dalu ymlaen llaw.
  3. Am ddim i'w gweld mewn swyddfa neu lys lleol ond byddai'n rhaid talu am wneud llungopïau. Byddem yn dweud wrthych adeg eich cais am y tâl perthnasol a byddai'n rhaid ei dalu ymlaen llaw;
  4. Gwybodaeth sydd ar gael ar wefan, ond efallai y bydd rhaid talu ffi cyn y gellid cael gafael ar brif ran y wybodaeth. Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, pan ddefnyddir y wefan i gyflwyno gwasanaeth gwerth-ychwanegol i gwsmeriaid, yn enwedig lle mae'r data ar gael hefyd i ddefnyddwyr y sector preifat sy'n darparu eu gwasanaeth gwerth-ychwanegol eu hunain. Lle bo hyn yn berthnasol, darperir gwybodaeth ynghylch y rheswm dros godi'r ffi ac am ba hyd y codir y ffi honno;
  5. Cyhoeddiadau y codir ffi amdanynt e.e. codir ffi am ddeunyddiau 'sgleiniog' neu gopïau papur eraill wedi'u rhwymo neu, dan rai amgylchiadau, CDRom, fideo neu gyfryngau eraill.

^Brig

Hawlfraint

Un o gyrff y goron yw'r Adran Materion Cyfansoddiadol ac mae'r wybodaeth a gynhyrchwn yn destun hawlfraint y goron, a weinyddir gan Lyfrfa Ei Mawrhydi (LlEM). Mae'r deunydd a restrir yn y Cynllun Cyhoeddi hwn yn dod dan hawlfraint y goron oni nodir fel arall. Eithrir rhywfaint o'r deunydd sydd yn y Cynllun Cyhoeddi hwn rhag gofynion hawlfraint, sy'n golygu y cewch chi ei atgynhyrchu heb unrhyw gyfyngiad. Dyma'r categorïau o ddeunyddiau a eithrir rhag gofynion hawlfraint:

Hysbysiadau'r llywodraeth yn y wasg; deddfwriaeth a nodiadau esboniadol ar y ddeddfwriaeth, areithiau gweinidogion, dogfennau ymgynghori, dogfennau a welir ar wefannau swyddogol (ac eithrio pan nodir fel arall); prif ystadegau a chofnodion cyhoeddus heb eu cyhoeddi. Mae mwy o fanylion am y rhain a chategorïau eraill i'w gweld yn:

www.hmso.gov.uk/guides.htm

www.opsi.gov.uk/advice/crown-copyright/copyright-guidance/index.htm

Ar gyfer mathau eraill o ddeunydd, fodd bynnag, nid yw darparu dogfennau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi'r hawl awtomatig i'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n eu derbyn ailddefnyddio'r dogfennau mewn ffordd a fyddai'n tarfu ar yr hawlfraint. Er enghraifft, trwy wneud lluos-gopïau, cyhoeddi a dosbarthu copïau i'r cyhoedd. Gellir atgynhyrchu darnau byr o unrhyw ddeunydd a gynhwysir yn y Cynllun Cyhoeddi hwn dan ddarpariaethau Delio'n Deg Deddf Hawlfraint, dyluniadau a Phatentau 1988 (adrannau 29 a 30) ar gyfer ymchwil at ddibenion anfasnachol, astudiaeth breifat, beirniadaeth, adolygu ac adroddiadau newyddion.

Mae manylion y trefniadau ar gyfer ailddefnyddio deunydd hawlfraint y goron i'w gweld ar wefan LlEM yn:

www.opsi.gov.uk/click-use/index.htm neu drwy gysylltu â Llyfrfa Ei Mawrhydi yn:

Llyfrfa Ei Mawrhydi / Her Majesty's Stationery Office
Licensing Division
St Clements House
2-16 Colegate
Norwich
NR3 1PQ
Ffôn: 01603 621000
Ffacs: 01603 723000
e-bost: Sefydliad Trwyddedu LlEM

Dylid ceisio caniatâd ar gyfer ailddefnyddio deunydd hawlfraint nad yw'n eiddo i'r goron gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw. Os oes unrhyw amheuaeth, dylai defnyddwyr gysylltu â Llyfrfa Ei Mawrhydi yn y lle cyntaf.

^Brig

Cais am wybodaeth dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (RhGA)

Er mwyn gwneud cais am wybodaeth dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (RhGA), ysgrifennwch at:

Mossan Hassan
Gweinyddiaeth Cyfiawnder
Uned Hawliau Mynediad, Llawr 1af
Clive House
70 Petty France
Llundain SW1H 9HD

^Brig

Ceisiadau am Wybodaeth Bersonol: Deddf Diogelu Data 1998

Mae gennych hawl statudol (gydag ambell eithriad) i weld data personol amdanoch chi'ch hun dan Ddeddf Diogelu Data 1998 [gellir cael copïau o Ddeddf Diogelu Data 1998 yn Llyfrfa Ei Mawrhydi].  Hawl yw hon  i weld data personol sy'n cael ei gadw ar gyfrifiadur neu mewn ffeiliau ysgrifenedig strwythuredig ac mae gennych hawl i gael gwybod am unrhyw ddata personol sy'n ymwneud â chi sy'n cael ei ddal gan y "Rheolydd Data" h.y, Y Weinyddiaeth Cyfiawnder, ac, os felly,

Mae gennych hefyd hawl i gael copi o'r wybodaeth gydag esboniad o unrhyw dermau annealladwy a chael unrhyw wybodaeth sydd ar gael i Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi ynghylch ffynhonnell y data. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn yr hawl hon i ddata personol a ddelir mewn unrhyw fath o ffeil.

Os ydych am wneud cais i gael gweld eich data personol, a elwir yn “hawl i weld gwybodaeth” dylech ysgrifennu at y Swyddog Cydymffurfio â Diogelu Data yr Adran yn: Yr Gweinyddiaeth Cyfiawnder, Clive House, Llawr 1af, 70 Petty France Lane, Llundain SW1H 9HD.

Rhaid delio gyda'r ceisiadau am gael gweld data personol yn brydlon a fan bellaf o fewn 40 diwrnod i dderbyn gwybodaeth ddigonol fel y gellir olrhain y data y gofynnwyd amdano. Fe allem godi ffi, ond ni fydd yn fwy na £10. Os teimlwch fod eich cais am gael gweld eich data personol heb gael sylw'n unol â Deddf Diogelu Data 1998, gallwch gymryd camau pellach fel a ganlyn:

  1. Gallwch wneud cais i'r llys yn honni eu bod wedi methu â chydymffurfio â'r darpariaethau “hawl i weld gwybodaeth” Deddf 1998. Gall y llys wneud gweithred neu orchymyn bod rhaid cydymffurfio â'r darpariaethau hynny a gall hefyd roi iawndal am unrhyw niwed a gawsoch ac unrhyw boen meddwl cysylltiedig â hynny, 
  2. Gallwch ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth a all wneud un o'r canlynol:
    (i) asesu a yw'n debygol ynteu'n annhebygol fod yr Adran wedi cydymffurfio â Deddf 1998.

    (ii) cychwyn achos gorfodi. Os yw ef/hi yn fodlon fod yr Adran wedi mynd yn groes i un o egwyddorion Diogelu Data

    (iii) argymell eich bod yn gwneud cais i'r llys yn honni methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hawl i weld gwybodaeth yn Neddf 1998.

^Brig


Sylwadau a chwynion am y Cynllun Cyhoeddi

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am ein Cynllun Cyhoeddi, neu os teimlwch nad ydym wedi darparu gwybodaeth yn unol â'n cynllun, dylech ysgrifennu, i ddechrau, at:

Mossan Hassan
Gweinyddiaeth Cyfiawnder
Uned Hawliau Mynediad, Llawr 1af
Clive House
70 Petty France
Llundain SW1H 9HD

Os ydych dal yn anfodlon ar ôl i'ch cwyn gael ei harchwilio, gallwch ofyn i'r mater gael ei adolygu'n fewnol. Os ydych dal yn anfodlon, gallwch gyfeirio'ch cwyn at y Comisiynydd Gwybodaeth. Ein nod fydd ymchwilio i bob cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan anelu at gwblhau adolygiadau mewnol hefyd o fewn 20 diwrnod gwaith.

^Brig

Adolygu'r Cynllun Cyhoeddi

Byddwn yn adolygu ein Cynllun Cyhoeddi ym mis Ebrill 2006 ac yn flynyddol ar ôl hynny.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 08 May 2007 14:52. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .