Y Llys Ieuenctid
Y Llys Ieuenctid fydd yn ymdrin ag achosion bron pawb sydd rhwng 10 - 17 oed (fodd bynnag, dan rai amgylchiadau, fe ellir eu rhoi ar brawf mewn llys oedolion). Math arbenigol o Lys Ynadon yw'r Llys Ieuenctid. Fel sy'n wir am y Llys Ynadon, gwrandewir yr achos gan ynadon neu gan Farnwr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon). Nid yw'r llys Ieuenctid ar agor i'r cyhoedd yn gyffredinol ac fel arfer, dim ond y sawl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r achos fydd yn y llys.
|
^ Brig
|
