English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Awdurdodaeth Droseddol Awdurdodaeth Sifil Dod o hyd i Lys Ynadon Llys Ieuenctid Trwyddedu Ynadon a Llysoedd Ynadon

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymdeithas yr Ynadon Cynllun Ystafell y Llys Sut i ddod yn Ynad

Llys Ieuenctid


Caiff y Llysoedd Ynadon ymdrin ag achosion sy'n ymwneud â phobl dan 18 ond dim ond os ydynt ar brawf gydag oedolion. Bydd pobl ifanc hefyd yn ymddangos yn Llys y Goron os ydynt yn cael eu rhoi ar brawf ar y cyd ag oedolyn y mae angen gwrando'i achos yn y llys hwnnw. Bydd achosion lladd a thrais rhywiol bob amser yn cael eu gwrando yn Llys y Goron. Mae'n bosibl hefyd y bydd y Llys Ieuenctid yn anfon rhywun ifanc i Lys y Goron os yw'r drosedd yn un ddifrifol iawn ac y tybir bod pwerau dedfrydu'r llys ieuenctid yn annigonol.

Oni bai bod yr achos yn un o'r rheini y sonnir amdanynt uchod, y Llys Ieuenctid fydd yn ymdrin ag achos pobl ifanc 10 i 17 oed.

Ffurf arbenigol ar lys ynadon yw hwn. Fel sy'n wir am y llys ynadon, gwrandewir yr achos gan ynadon neu gan Farnwr Rhanbarth (lysoedd ynadon). Nid yw'r llys Ieuenctid ar agor i'r cyhoedd yn gyffredinol ac, fel arfer, dim ond y sawl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r achos fydd yn y llys. Caiff y wasg ddod i'r llys a llunio adroddiad ar yr achos ond, fel arfer, ni chaniateir iddynt gyhoeddi enw'r diffynnydd.

Mae gwrandawiad yn y Llys Ieuenctid yn debyg i wrandawiad yn y llys ynadon er bod y drefn yn cael ei haddasu er mwyn rhoi ystyriaeth i oedran y diffynnydd. Bydd yr Ynadon a'r Barnwyr Rhanbarth sy'n eistedd yn y Llys Ynadon yn cael eu hyfforddi'n arbennig i drin pobl ifanc.

Dewisir Ynadon sy'n eistedd yn y llys ieuenctid gan yr Arglwydd Ganghellor i weithio yng Nghanol Llundain a gan eu cymheiriaid y tu allan i Lundain. Pan ddaw adran 50 Deddf y Llysoedd 2003 i rym, cyflwynir yr un drefn ddethol i bawb.

Mae gan y Llysoedd Ieuenctid ystod o ddedfrydau i'w defnyddio. Nod y rhain yw atal rhagor o droseddu ac maent yn cynnwys Gorchymyn Cadw dan Glo a Hyfforddi hyd at 2 flynedd.

 


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 17 January 2006 12:08. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .