English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Awdurdodaeth Droseddol Awdurdodaeth Sifil Dod o hyd i Lys Ynadon Llys Ieuenctid Trwyddedu Ynadon a Llysoedd Ynadon

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymdeithas yr Ynadon Cynllun Ystafell y Llys Sut i ddod yn Ynad

Ynadon a Llysoedd Ynadon


Mae Llysoedd Ynadon yn rhan allweddol o'r drefn cyfiawnder troseddol ac fe gwblheir 95% o achosion yno. Yn ogystal, bydd y Llysoedd Ynadon yn ymdrin â llawer o achosion sifil e.e. materion teulu, trwyddedau gwerthu gwirodydd a gwaith betio a hapchwarae. Ers dros 600 mlynedd, mae Ynadon Heddwch wedi cynnal llysoedd er mwyn cosbi'r sawl sy'n torri'r gyfraith, datrys anghydfodau lleol a chadw trefn yn y gymuned.

Fel arfer, gwrandewir achosion yn y Llysoedd Ynadon gan banel o dri ynad (Ynadon Heddwch), gyda chymorth Clerc Llys sydd â chymwysterau cyfreithiol. Gelwir yr Ynadon hyn yn Fainc ac er eu bod yn cael eu neilltuo i Ardal Cyfiawnder Leol mae ganddynt awdurdodaeth genedlaethol yn unol â Deddf y Llysoedd 2003.

Penodir ynadon gan y Goron (a byddant yn ymddeol yn 70 oed). Ni chânt dâl am eu gwaith ond cânt hawlio costau a lwfans colli enillion.. Maent yn dod o bob carfan o'r gymdeithas ac fel arfer, nid oes ganddynt unrhyw gymwysterau cyfreithiol. Gall clercod cymwysedig eu cynghori am y gyfraith. Er nad ydynt yn cael eu talu, maent yn cael lwfans teithio a chynhaliaeth. Mae oddeutu 30,000 ohonynt yng Nghymru a Lloegr. Byddant yn cael eu hyfforddi'n drwyadl dan oruchwyliaeth y Bwrdd Astudiaethau Barnwrol.

Hefyd, ceir oddeutu 130 o Farnwyr Rhanbarth. Mae disgwyl i Farnwyr Rhanbarth yn y Llysoedd Ynadon fod wedi cael o leiaf saith mlynedd o brofiad fel Bargyfreithiwr neu Dwrnai a dwy flynedd o brofiad fel Dirprwy Farnwr Rhanbarth. Maent yn eistedd ar eu pen eu hunain ac yn ymdrin ag achosion mwy cymhleth neu sensitif e.e. achosion sy'n codi yn sgîl y Ddeddf Estraddodi, y Ddeddf Troseddwyr ar Ffo a Thwyll Difrifol. Tan fis Awst 2000 gelwid y Barnwyr Rhanbarth hyn yn Ynadon Cyflogedig, ond fe'u hailenwyd er mwyn cydnabod eu bod yn aelodau o'r farnwriaeth broffesiynol.

Fel arfer, ni all ynadon orchymyn dedfrydau o garchar sy'n hwy na 6 mis (neu 12 mis ar gyfer dedfrydau olynol) na dirwyon mwy na £5,000. Mewn achosion naill-ffordd (sef achosion y gellir eu rhoi ar brawf naill ai yn y Llys Ynadon neu Lys y Goron) gall yr Ynadon draddodi'r troseddwr i Lys y Goron i'w ddedfrydu os tybir bod angen dedfryd fwy difrifol.

 


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 17 January 2006 12:08. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .