English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Llysoedd Masnach A Rhestri Busnes

Mae'r cyfarwyddyd ymarfer hwn yn ychwanegu at ran 49 o'r rheolau trefn sifil, ac mae, gyfa gwelliannau, yn diodli y gorchymyn 48C rheolau llysoedd sirol 1981 a'r cyfarwyddiadau ymarfer sy'n sefydlu llysoedd masnach ym Manceinion, Lerpwl, Birmingham, Bryste, Leeds a Newcastle-upon-Tyne. Mae'r Arglwydd Ganghellor wedi cymeradwyo sefydlu llys masnach yng Nghaerdydd. Mae'r cyfarwyddyd ymarfer hwn yn cyfannu cyfarwyddyd ymarfer y llys masnachol, sydd hefyd yn ychwanegu at ran 49.

Cyffredinol

1.1 Yn y cyfarwyddyd ymarfer hwn:-

(1) Mae "hawliad masnach" yn golygu hawliad sy'n ymwneud â gweithrediad masnachol neu fusnes ac mae'n cynnwys (er nad yw wedi ei gyfyngu iddynt) unrhyw hawliad sy'n ymwneud â -

(i) dogfen neu gontract busnes;

(ii) allforio neu fewnforio nwyddau neu werthiant nwyddau;

(iii) cludo nwyddau ar dir neu fôr, yn yr awyr neu drwy bibell;

(iv) datblygu adnoddau naturiol olew a nwy;

(v) yswirio ac ailyswirio;

(vi) bancio a gwasanaethau ariannol;

(vii) gweithredu marchnadoedd a chyfnewidfeydd;

(viii) asiantaeth fusnes;

(ix) dulliau ac arferion marchnadoedd, busnesau neu sefydliadau masnachol arbennig;

(x) twyll masnachol;

(xi) esgeulustod proffesiynol mewn cyd-destun masnachol;

(xii) ceisiadau cyflafareddu (paragraff 6 isod)

ond nid yw'n cynnwys -

(i) unrhyw hawliad gan ddefnyddiwr unigol, neu yn ei erbyn, sy'n ymwneud â gwerthu nwyddau; neu

(ii) unrhyw hawliad y mae Rhan 49 o'r Rheolau Trefn Sifil (ar wahân i reol 49(2)(c)) yn berthnasol iddo.

ac mae gan "gweithrediadau masnach" ystyr cyfatebol.

(2) Mae "Llys Masnach" yn golygu un o'r Llysoedd Masnach sydd wedi eu sefydlu er mwyn delio gyda hawliadau masnach yn yr Uchel Lys ond nid yw'n cynnwys Llys Masnachol Adran Mainc y Frenhines.

(3) Mae "llys sirol awdurdodedig" yn golygu Llys Sirol Canol Llundain ac unrhyw lys sirol arall sydd wedi ei awdurdodi gan yr Arglwydd Ganghellor i weithredu rhestr Busnes er mwyn delio gydag achosion masnach.

(4) Mae "barnwr masnach ", mewn perthynas ag achosion yn yr Uchel Lys, yn golygu barnwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi i eistedd fel barnwr, mewn Llys Masnach, ac mewn perthynas ag achosion mewn llys sirol, y barnwr neu'r barnwyr sydd wedi eu hawdurdodi i ddelio ag achosion ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig.

1.2 Gellir delio ag achosion masnach yn yr Uchel Lys yn amodol ar y cyfyngiadau ar hawliadau y gellir eu cychwyn yn yr Uchel Lys (gweler Rheol Trefn Sifil 16.3(5) a pharagraff 2.1 i 2.4 o'r Cyfarwyddyd Ymarfer sy'n ychwanegu at Ran 7 o'r Rheolau Trefn Sifil), neu gellir delio â hwy mewn llys sirol awdurdodedig.

1.3 Mae'r Rheolau Trefn Sifil a'r cyfarwyddiadau ymarfer ychwanegol yn ymwneud â hawliadau masnach ond yn amodol ar ddarpariaethau'r cyfarwyddyd ymarfer hwn.

1.4 I ddibenion y Rheolau Trefn Sifil mae rhestr Llys Masnach a rhestr Busnes llys sirol awdurdodedig yn rhestr arbenigol (gweler e.e. rheolau 2.3(2) ac 16.3(5)(d) o'r Rheolau Trefn Sifil).

^ Brig

Cychwyn Gweithrediadau:

Yr Uchel Lys

2.1 Dylai hawliad masnach y bwriedir iddo gael ei gynnwys ar restr fasnachol Llys Masnachol Adran Mainc y Frenhines gael ei gychwyn trwy ffurflen hawliad yn deillio o Gofrestrfa'r Môr a Masnach yn y Llysoedd Barn Brenhinol. (Am ragor o wybodaeth gweler y Cyfarwyddyd Ymarfer Llysoedd Masnachol sy'n ychwanegu at Ran 49 o'r Rheolau Trefn Sifil a'r Canllaw i'r Llys Masnachol.)

2.2 (1) Os yw hawlydd am i hawliad masnach gael ei gynnwys ar restr Llys Masnach dylai'r hawliad gael ei gychwyn trwy ffurflen hawliad yn deillio o gofrestrfa ddosbarth y Llys Masnach dan sylw a dylid nodi'r geiriau canlynol arni, "Adran Mainc y Frenhines, Cofrestrfa Ddosbarth ____________, Llys Masnach".

(2) Pan fo ffurflen hawliad yn deillio o'r Gofrestrfa ddywededig gyda'r geiriau uchod arni bydd yr hawliad yn cael ei roi ar restr y Llys Masnach hwnnw.

(3) Lle bo ffurflen hawliad i'w nodi fel y crybwyllwyd yn is-baragraff (2), dylid cyflwyno unrhyw gais a wneir cyn cyhoeddi'r ffurflen hawliad i farnwr yn y Llys Masnach hwnnw.

(4) Os bydd cais yn cael ei wneud cyn cyhoeddi'r ffurflen hawliad, rhaid i'r dystiolaeth ysgrifenedig sy'n cefnogi'r cais nodi bod yr hawlydd yn bwriadu nodi'r ffurflen hawliad yn unol ag is-baragraff (1), yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill sydd eu hangen.

(5) Os yw'r barnwr masnach sy'n gwrando cais a wneir cyn cyhoeddi'r ffurflen hawliad o'r farn na ddylid rhoi'r hawliad ar restr y Llys Masnach dan sylw, gall ohirio'r cais i gael ei glywed gan farnwr arall neu gall wrando'r cais a gorchymyn pan fo'r ffurflen hawliad yn cael ei chyhoeddi, na ddylid cofrestru'r hawliad yn y rhestr masnach.

^ Brig

Llys Sirol

2.3 (1) Os yw hawlydd am i hawliad masnach gael ei gynnwys ar
restr Busnes llys sirol awdurdodedig, dylai'r hawliad masnach gael ei gychwyn trwy ffurflen hawliad a gyhoeddir gan swyddfa'r llys sirol dan sylw a dylid nodi arni "Llys Sirol _____________, rhestr Busnes".

(2) Ni ddylid cyhoeddi ffurflen hawliad na'i nodi fel y crybwyllwyd yn is-baragraff (1) onid oes gan yr hawliad masnach ryw gysylltiad â'r Gylchdaith y mae swyddfa'r llys sirol yn rhan ohoni, er enghraifft, oherwydd:-

(i) bod cydbwysedd hwylustod yn awgrymu y dylai'r hawliad masnach gael ei glywed yn y llys sirol hwnnw, neu

(ii) bod y gweithrediad masnachol neu'r busnes dan sylw wedi digwydd o fewn y Gylchdaith y mae'r llys sirol yn rhan ohoni, neu fod un o'r partïon yn byw neu'n cyflawni ei fusnes yn y Gylchdaith honno.

(3) Lle nad yw gwerth hawliad masnach dros £15,000, ni ellir cyhoeddi a nodi hawliad masnach fel y crybwyllwyd yn is-baragraff (1) ac eithrio gyda chaniatâd barnwr masnach y llys sirol dan sylw.

(4) Bydd hawliad masnach sy'n cael ei gyhoeddi a'i nodi fel y crybwyllwyd yn is-baragraff (1) yn cael ei gofrestru yn rhestr Busnes y llys sirol dan sylw.

(5) Lle bo ffurflen hawliad i'w chyhoeddi a'i nodi fel y crybwyllwyd yn is-baragraff (1), dylai unrhyw gais sy'n cael ei wneud cyn cyhoeddi'r ffurflen hawliad gael ei gyflwyno i farnwr masnach y llys sirol dan sylw.

(6) Os bydd cais yn cael ei wneud cyn cyhoeddi'r ffurflen hawliad rhaid i'r dystiolaeth ysgrifenedig sy'n cefnogi'r cais, nodi yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill angenrheidiol, bod yr hawlydd yn bwriadu cyhoeddi a nodi'r ffurflen hawliad yn unol ag is-baragraff (1).

(7) Os yw'r barnwr masnach sy'n gwrando cais a wneir cyn cyhoeddi'r ffurflen hawliad o'r farn na ddylid rhoi'r hawliad ar restr Busnes y llys sirol dan sylw, gall ohirio'r cais i gael ei glywed gan farnwr arall neu gall wrando'r cais a gorchymyn na ddylai'r hawliad gael ei roi ar y rhestr Busnes.

^ Brig

Trosglwyddo

3.1 Lle bo achos masnach yn cael ei gofrestru yn rhestr Llys Masnach neu yn rhestr Busnes llys sirol awdurdodedig, nid yw darpariaethau rheol 26.2 o'r Rheolau Trefn Sifil (trosglwyddiad awtomatig) yn gweithredu.

3.2 Ar unrhyw adeg yn ystod achos masnach nad yw wedi ei gofrestru yn rhestr Llys Masnach neu yn rhestr Busnes llys sirol awdurdodedig, gall unrhyw barti wneud cais am orchymyn yn trosglwyddo'r achos i Lys Masnach neu i restr Busnes llys sirol awdurdodedig.

3.3 Gellir cyflwyno cais dan baragraff 3.2 -

(1) i farnwr masnach yn y llys y cynigir y dylid trosglwyddo'r achos iddo; neu

(2) i'r llys lle mae'r achos masnach yn cael ei gynnal.

3.4 Ni all y llys lle mae'r achos masnach yn cael ei gynnal wneud gorchymyn trosglwyddo ond, os yw'n teimlo y gallai'r achos fod yn addas i'w drafod mewn Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig, gall

(1) trwy gais dan baragraff 3.3(2) ohirio'r cais i gael ei wrando gan farnwr masnach y llys y bwriedir trosglwyddo'r achos iddo; neu

(2) gyfeirio'r achos ar ei liwt ei hun i sylw barnwr masnach y llys hwnnw er mwyn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn trosglwyddo.

3.5 Lle bo pob parti'n cydsynio â'r trosglwyddiad, dylid gwneud cais am drosglwyddiad trwy lythyr wedi ei gyfeirio at swyddog rhestru'r Llys Masnach neu'r llys sirol awdurdodedig, gan amgáu cydsyniadau ysgrifenedig y partïon eraill a ffurflen hawliad a datganiadau achos. Dylai'r llythyr nodi pam y mae'r achos yn addas ar gyfer y Llys Masnach neu, fel bo'r achos, ar gyfer rhestr Busnes y llys sirol awdurdodedig.

3.6 Lle bo barnwr masnach yn gorchymyn i'r achos masnach gael ei drosglwyddo i restr Llys Masnach, neu i restr Busnes llys sirol awdurdodedig, gall yr un pryd roi cyfarwyddiadau i rheolaeth achos.

3.7 Gall barnwr masnach, ar ei arweiniad ei hun (ond dim ond os yw'r partïon wedi cael cyfle i gyflwyno honiadau), neu yn dilyn cais gan unrhyw barti, orchymyn i achos sydd ar restr Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig gael ei dynnu oddi ar y rhestr honno a gall yr un pryd roi cyfarwyddiadau rheolaeth achos.

3.8 Lle bo achos ar restr Llys Masnach yn rhinwedd paragraff 2.2(2) neu ar restr Busnes yn rhinwedd paragraff 2.3(4), rhaid i gais gan ddiffynnydd, gan gynnwys diffynnydd Rhan 20, i dynnu'r achos hwnnw oddi ar y rhestr honno, gael ei wneud cyn pen 7 diwrnod ar ôl i'r diffynnydd gofnodi cydnabyddiaeth cyflwyno neu amddiffyniad, pa un bynnag yw'r hwyraf.

3.9 Lle bo achos ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr honno, gall y barnwr masnach yr un pryd:-

(1) wneud gorchymyn yn dyrannu'r achos i drac yn unol â Rhan 26 o'r Rheolau Trefn Sifil; neu

(2) roi cyfarwyddiadau er mwyn dyrannu; a

(3) rhoi cyfarwyddiadau rheolaeth achos.

^ Brig

Hepgor Manylion Hawliad neu Amddiffyniad

4. Gall barnwr masnach ar unrhyw adeg, cyn neu ar ôl cyhoeddi'r ffurflen hawliad, orchymyn bod achos sydd ar restr Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig yn cael ei glywed heb gofnodi neu gyflwyno manylion hawliad neu amddiffyniad neu unrhyw ddatganiad achos arall, ond os gwneir gorchymyn o'r fath heb i unrhyw barti arall gael cyfle i gael ei glywed, gall y parti hwnnw wneud cais am ddiddymu'r gorchymyn.

Cyfarwyddiadau a Rheoli Achos

5.1 Bydd pob achos sydd ar restr Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig yn cael ei ddyrannu i'r amldrac. Yn amodol ar baragraff 3.9, ni fydd y Rheolau Trefn Sifil sy'n ymwneud â holiaduron dyrannu ac â dyrannu trac yn berthnasol iddynt. Rheolir hwy gan y llys.

5.2 (1) Os trosglwyddir achos masnach i Lys Masnach neu restr Busnes dan baragraff 3 yna, os nad yw'r barnwr masnach a wnaeth y gorchymyn trosglwyddo wedi rhoi cyfarwyddiadau i reoli'r achos, rhaid gwneud cais i farnwr masnach am gyfarwyddiadau o'r fath cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad y gorchymyn trosglwyddo.

(2) Os nad yw'r hawlydd yn gwneud cais yn unol ag is-baragraff (1), gall unrhyw barti arall wneud hynny neu gall wneud cais am ddileu hawliad yr hawlydd sydd ar fai.

5.3 (1) Yn amodol ar is-baragraffau (2) a (3), rhaid i geisiadau interim
a threialon mewn Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig gael eu trafod neu eu gwrando, gan farnwr masnach y llys dan sylw;

(2) Pan fo angen delio â chais interim ar fyrder pan nad oes barnwr masnach o'r llys dan sylw ar gael, gall farnwr arall, gan gynnwys barnwr rhanbarth, drafod y cais.

(3) Pan fydd gwrandawiad cais yn golygu bod y barnwr masnach yn dod yn ymwybodol o unrhyw fater a allai beri embaras iddo fel darpar farnwr y treial ac nad oes barnwr masnach arall o'r llys dan sylw ar gael i wrando'r cais, gall y cais gael ei glywed gan farnwr arall, gan gynnwys barnwr rhanbarth.

(4) Gall materion sy'n ymwneud â gorfodi unrhyw ddyfarniad a wneir mewn achos mewn Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig, gael eu trafod gan farnwr rhanbarth, a dyma fydd yn digwydd fel arfer.

(5) Yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth ddatganedig mewn statud, rheol neu gyfarwyddyd ymarfer, nid yw is-baragraffau (2), (3) a (4) uchod yn berthnasol i geisiadau am waharddeb, gorchmynion rhewi, gorchmynion chwilio, traddodi neu neilltuo asedau.

(6) Ni ddylid dehongli'r paragraff hwn i atal unrhyw farnwr yr Uchel Lys rhag gweithredu pwerau barnwr masnach

5.4 Mae paragraff 5 y Cyfarwyddyd Ymarfer - Yr Amldrac - sy'n ychwanegol at Ran 29 o'r Rheolau Trefn Sifil, yn berthnasol i gynadleddau rheolaeth achos mewn achos yn y Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig.

5.5 Bwriedir paratoi Canllaw i Lysoedd Masnach a Rhestri Busnes ar ôl ymgynghori gyda barnwyr y Llysoedd Masnach, barnwyr Rhestr Busnes Llys Sirol Canol Llundain a'u Pwyllgorau Defnyddwyr perthnasol, a bydd y Canllaw yn nodi unrhyw weithdrefnau arbennig sydd i'w dilyn wrth gynnal achosion yn y Llysoedd Masnach a chyda rhestri Busnes llysoedd sirol awdurdodedig. Yn y cyfamser dylid dilyn yr ymarfer a gyflwynir gan unrhyw "Ganllaw cymeradwy" (gweler paragraff 5.6 isod) yn amodol ar ddarpariaethau'r cyfarwyddyd ymarfer hwn neu unrhyw gyfarwyddyd ymarfer arall ar gyfer Llysoedd Masnach a Rhestri Busnes ac unrhyw orchymyn a wneir mewn achos unigol.

5.6 (1) Mewn perthynas ag achosion masnach mewn unrhyw
Lys Masnach neu ar Restr Busnes Llys Sirol Canol Llundain, mae "Canllaw cymeradwy" yn golygu canllaw sydd wedi ei gymeradwyo gan y Pennaeth Achosion Sifil ar gyfer achosion masnach yn y llys hwnnw neu ar y rhestr honno.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw Lys Masnach neu restr Busnes nad oes iddynt y "Canllaw cymeradwy" ar ei gyfer ar y pryd, bydd Adran D, 5ed argraffiad y Canllaw i'r Llys Masnachol, sy'n ymwneud â rheolaeth achosion yn y Llys Masnachol, yn cael ei hystyried fel y "Canllaw cymeradwy" ar gyfer achosion masnach yn y llys hwnnw neu ar y rhestr honno.

^ Brig

Ceisiadau a Gweithrediadau Cyflafareddu

6.1 Bydd cais cyflafareddu (fel sy'n cael ei ddiffinio ym mharagraff 2 y Cyfarwyddyd Ymarfer Cyflafareddu sy'n ychwanegu at Rhan 49 o'r Rheolau Trefn Sifil) ac achosion i orfodi dyfarniad dan adran 26 Deddf Gyflafareddu 1950 neu dan adrannau 66 neu 101(2) Deddf Gyflafareddu 1996, yn cael eu hystyried fel hawliadau masnach i ddibenion y cyfarwyddyd ymarfer hwn a gellir eu cynnwys ar restr fasnach Llys Masnach neu ar restr Busnes llys sirol awdurdodedig.

6.2 Gall barnwr masnach hefyd ddelio ag unrhyw gais arall dan Ddeddf Gyflafareddu 1979 a all gael ei gychwyn neu ei drosglwyddo i Lys Masnach neu restr Busnes llys sirol awdurdodedig.

6.3 Mae darpariaethau'r Cyfarwyddyd Ymarfer Cyflafareddu sy'n ychwanegol at Ran 49 o'r Rheolau Trefn Sifil yn berthnasol i'r cyfryw geisiadau a gweithrediadau.

Diddymu Cyfarwyddiadau neu Ganllawiau Lleol Blaenorol

7. Mae'r cyfarwyddyd ymarfer hwn, o 26 Ebrill 1999 ymlaen, yn disodli unrhyw gyfarwyddiadau ymarfer neu Ganllawiau lleol sy'n berthnasol i achosion masnach mewn unrhyw Lys Masnach neu ar Restr Busnes Llys Sirol Canol Llundain.

< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .