English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Cyfarwyddiadau Ymarfer Ar Ddefnyddio'r Iaith Gymraeg Mewn Achosion yn y Llysoedd Sifil Yng Nghymru 

Diben y Cyfarwyddiadau Ymarfer hyn yw adlewyrchu egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 sef y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

1.    Cyffredinol

Mae'r cyfarwyddiadau ymarfer hyn yn berthnasol i achosion sifil mewn llysoedd yng Nghymru.

Bydd yr ymarfer presennol o gynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl yn y Gymraeg ar sail ad hoc a heb rybudd yn parhau'n ddilys pan fo parti a phob tyst sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r achos ar y pryd yn cytuno iddo gael ei gynnal felly.

Ym mhob achos lle y bydd tyst neu barti o bosibl am ddefnyddio'r Gymraeg [neu lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg mewn unrhyw ddogfen a gyflwynir gerbron y llys], cyfrifoldeb y parti neu ei gynrychiolwyr cyfreithiol yw hysbysu'r llys o hyn fel y gellir gwneud trefniadau priodol ar gyfer trin a rhestru'r achos.

Os achosir costau yn sgil methu â chydymffurfio â'r Cyfarwyddiadau hyn, gellir codi gorchymyn costau yn erbyn y parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol.

Pan fydd achos yn cael ei brofi gyda rheithgor, nid yw'r gyfraith yn caniatáu dethol rheithgor mewn modd sy'n galluogi'r Llys i ganfod a yw Rheithiwr yn siarad Cymraeg ai peidio nac i sicrhau Rheithgor y mae ei aelodau yn ddwyieithog i wrando achos lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg.

2.    Yr Holiadur Dyrannu

Mewn unrhyw achos lle y mae gofyn i barti lenwi holiadur dyrannu, rhaid iddo gynnwys manylion ynghylch defnydd posibl o'r Gymraeg, h.y. manylion unrhyw berson a ddymunai roi tystiolaeth lafar yn y Gymraeg ac unrhyw ddogfennau yn y Gymraeg (e.e. dogfennau i'w datgelu o dan Ran 31 neu ddatganiadau tystion) y mae'r parti hwnnw'n disgwyl eu defnyddio.

Rhaid i barti gynnwys y manylion a nodir ym mharagraff 2.1 yn yr holiadur dyrannu, hyd yn oed os yw ef eisoes wedi hysbysu'r llys am ddefnydd posibl o'r Gymraeg yn unol â gofynion adran 1 uchod.

^ Brig

3.    Rheoli Achosion

Mewn unrhyw wrandawiad yng nghwrs achos bydd y llys yn manteisio ar y cyfle i ystyried a ddylai roi cyfarwyddiadau rheoli achos. I gynorthwyo'r llys, dylai parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol dynnu sylw'r llys at y posibilrwydd y gallai'r Gymraeg gael ei defnyddio yn yr achos, hyd yn oed os yw ef eisoes wedi gwneud hynny wrth gydymffurfio â gofynion eraill y cyfarwyddiadau hyn.

Mewn unrhyw achos pan fydd gofyn i barti lenwi holiadur rhestru a'r parti hwnnw eisoes wedi nodi ei fwriad i ddefnyddio'r Gymraeg, dylai gadarnhau ei fwriad i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr holiadur rhestru, a rhoi unrhyw fanylion na chafodd eu nodi yn yr holiadur dyrannu.

4.    Rhestru Gan Y Llys

Bydd rheolwr y dyddiadur, mewn ymgynghoriad â'r Barnwr Sifil Dynodedig, yn sicrhau y bydd achos lle y defnyddir y Gymraeg yn cael ei restru:

    a)    pryd bynnag y bydd hynny'n ymarferol bosib, gerbron barnwr Cymraeg ei iaith; a

      b)    lle y bo angen cyfleusterau cyfieithu, mewn llys gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd

5.    Cyfieithwyr

Pryd bynnag y bydd angen cyfieithydd i gyfieithu tystiolaeth o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg i'r Saesneg, bydd Rheolwr y Llys lle y cynhelir yr achos yn sicrhau y trefnir i gyfieithydd, y mae ei enw ar restr y llys o gyfieithwyr cymeradwy, fod yn bresennol.

^ Brig

6.    Tystion a Rheithwyr

Wrth i bob tyst gael ei alw, bydd y swyddog llys sy'n gweinyddu'r llw neu'r cadarnhad yn hysbysu'r tyst y gall ef dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.

Pan gaiff achos ei brofi gan reithgor, bydd y swyddog llys sy'n gweinyddu llwon y rheithwyr yn hysbysu'r rheithwyr mewn llys agored y caiff pob rheithiwr dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.

7.    Rôl Y Barnwr Cyswllt

Os cyfyd unrhyw gwestiwn neu broblem ynghylch gweithredu'r cyfarwyddiadau uchod, dylid yn y lle cyntaf gysylltu â'r Barnwr Cyswllt dros faterion y Gymraeg ar y Gylchdaith.

Yr Anrh. Mr Ustus Maurice
Yr Anrh. Mr Ustus Thomas

26 Mai 1999

<< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .