English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Canllawiau ar gyfer Rhestru Achosion Sifil lle Defnyddir Yr Iaith Gymraeg ac Sy'n Deillio o Ogledd Cymru

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i bob achos sifil sy'n disgwyl gwrandawiad, ar ôl ei ddyrannu, yn Llysoedd Sirol neu Gofrestrfeydd Rhanbarth Gogledd Cymru lle y mae'n bosib gwneud trefniadau ar gyfer cynnal treial yn y Ganolfan Llysoedd Sifil yng Nghaer. Bwriedir i'r canllawiau hyn ffurfioli'r arferion sydd eisoes ar waith.

1.    Yn unol â'r polisi a nodir yn y Cyfarwyddyd Ymarfer ynghylch defnyddio'r iaith Gymraeg, mae'n ddymunol bod unrhyw achos sy'n disgwyl gwrandawiad, ar ôl ei ddyrannu, yn Llysoedd Sirol neu Gofrestrfeydd Dosbarth Gogledd Cymru, a lle bwriedir rhoi tystiolaeth yn y Gymraeg, lle bo hynny'n ymarferol, yn cael ei glywed yng Nghymru. Os, am unrhyw reswm, y bydd achos o'r fath (boed yn achos trac cyflym neu amldrac neu boed hwnnw'n achos yn yr Uchel Lys neu'r Llys Sirol) ac nad oes modd clywed yr achos yng Nghymru, yna, dylid ei gyfeirio i'r Barnwr Sifil a Ddynodwyd ar gyfer Gogledd Cymru a Chaer ac i un o'r Barnwyr Llywyddol. Ni ddylai unrhyw dreial yn yr achos hwnnw gael ei gynnal mewn llys y tu allan i Gymru heb ganiatâd penodol Barnwr Sifil Dynodedig Gogledd Cymru a Chaer ac un o'r Barnwyr Llywyddol. Dylid cyflwyno i'r Barnwyr Llywyddol:

   1)    Gwybodaeth fanwl am yr achos

    2)    Gwybodaeth yngl·n ag i ba raddau y bwriedir defnyddio'r iaith Gymraeg

    3)    Gwybodaeth yngl·n a barn y partïon am y treial a'r defnydd o'r iaith Gymraeg

    4)    Enw'r Barnwr sydd i glywed yr achos.

Caniateir cynnal achos y tu allan i Gymru ar y sail o'i glywed gan y barnwr a enwebwyd yn benodol ar gyfer yr achos hwnnw; ni ddylai unrhyw Farnwr arall glywed yr achos hwnnw heb gyfeirio'r peth eto i un o'r Barnwyr Llywyddol.

2.    Ni ddylai unrhyw Farnwr ac eithrio Barnwr a ddynodwyd ar y rhestr a ddarperir gan Weinyddwr y Gylchdaith fel un cymeradwy i glywed achosion yn yr iaith Gymraeg glywed unrhyw achos sy'n cynnwys defnyddio'r iaith Gymraeg oni bai fod un o'r Barnwyr Llywyddol neu Farnwr Cyswllt yr Iaith Gymraeg wedi rhoi caniatâd penodol.

3.    Daw'r canllawiau hyn i rym ar unwaith.

Yr Anrh. Feistr Ustus Thomas                                    

Yr Anrh.Feistr Ustus Richards
31 Gorffennaf 2000

<< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .