Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Apeliadau yn erbyn Collfarn/Dedfryd am Droseddau a Gyflawnwyd yn erbyn y Ddeddf Cwmnïau
Mae'r Barnwr Preswyl yng Nghaerdydd, gyda chytundeb y Barnwyr Llywyddol, wedi cyfarwyddo y caniateir cais gan apelydd, pan fo'r cais hwnnw wedi'i gyflwyno gan yr apelydd ei hun, ac yn ymwneud â throsglwyddo apêl i'w lys lleol yn erbyn canfyddiadau o dan y Ddeddf Cwmnïau.
Nid ydym i wahodd ceisiadau trwy, er enghraifft, awgrymu i apelyddion eu bod yn gwneud cais am drosglwyddo. Rhaid i'r cais ddod gan yr apelydd.
Pan dderbynnir cais o'r fath, dylid pasio'r ffeil ymlaen, fel rheol, i'r swyddog rhestru neu i mi fel y gellir trefnu i drosglwyddo'r apêl.
Os gwneir cais yn y llys (ac yn anaml iawn y dylai hynny ddigwydd), yna dylai clercod y llys hysbysu'r Barnwr perthnasol o'r cyfarwyddyd hwn.
1974
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
