Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Cau ac Agor Llysoedd y Goron
Mae'r Barnwyr Llywyddol yn cyfarwyddo y bydd yr ymarfer canlynol ar gyfer agor a chau eisteddiadau yn ffurfiol yn Llysoedd y Goron yn dod i rym ar ddydd Llun, 5 Mai 1975:
Pan fo Barnwr Cylchdaith, Cofiadur neu Ddirprwy Barnwr Cylchdaith yn llywyddu dros Lys y Goron, caiff y llys ei agor bob dydd gan Glerc y Llys gan ddefnyddio'r geiriau canlynol -
"Bydded i bawb sydd ag unrhyw beth i'w wneud gerbron Llys y Goron Ei Mawrhydi ddynesu yma a gwrando."
Ar ddiwedd y busnes am y diwrnod, dylai Clerc y Llys ddweud -
"Caiff pawb sydd ag unrhyw beth pellach i'w wneud gerbron Llys y Goron Ei Mawrhydi ymadel yn awr a bod yn bresennol am hanner awr wedi deg bore yfory. Duw gadwo'r Frenhines."
Mewn llys y mae Barnwr Uchel Lys yn llywyddu drosto, cyfrifoldeb Clerc y Barnwr yw agor y llys trwy ddefnyddio'r geiriau canlynol -
" Bydded i bawb sydd ag unrhyw beth i'w wneud gerbron fy Arglwyddi, Barnwyr y Frenhines, ddynesu yma a gwrando."
Ar ddiwedd y busnes am y diwrnod, dylai Clerc y Barnwr ddweud -
" Caiff pawb sydd ag unrhyw beth pellach i'w wneud gerbron Fy Arglwyddi, Barnwyr y Frenhines, ymadael yn awr a bod yn bresennol am hanner awr wedi deg bore yfory. Duw gadwo'r Frenhines a'm Harglwyddi Barnwyr y Frenhines."
Gweinyddwr y Gylchdaith
28 Ebrill 1975
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
