Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Apeliadau o Lysoedd Ynadon
Dylai fod yn arfer cyffredin i Farnwr neu Gofiadur, wrth ganiatáu apêl o Lys Ynadon, ddatgan, mewn llys agored, pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw.
Dylai Clerc y Llys nodi'r rhesymau hynny a chadarnhau cywirdeb y cofnod hwnnw, sy'n rhaid ei gyfyngu i'r rhesymau a ddatganwyd yn y llys agored, gyda'r Barnwr neu'r Cofiadur. Yna, dylid cadw'r cofnod ac, os derbynnir cais amdano, dylid anfon copi ohono i'r Llys Ynadon.
Ambell waith, ar ôl clywed apêl, bydd Barnwyr neu Gofiaduron yn gwneud sylwadau mewn llys agored sy'n mynd y tu hwnt i'r rhesymau am y penderfyniad ac ym marn y Llys dylid dwyn sylw'r Llys Ynadon at y rhain. Dylai Clerc y Llys gofnodi sylwadau o'r fath a chadarnhau eu cywirdeb gyda'r Barnwr neu'r Cofiadur. Yna, dylid anfon y cofnod ymlaen at Weinyddwr y Gylchdaith fel y gellir gofyn am gyfarwyddyd y Barnwr Llywyddol (neu, os nad yw ef ar gael, y Barnwr Cyswllt priodol) cyn anfon unrhyw ohebiaeth at y Llys Ynadon.
Pan fydd Barnwr neu Gofiadur yn gwneud sylwadau yn y llys agored, mewn achosion ar wahân i apeliadau, a'i fod yn dymuno dwyn sylw'r Llys Ynadon atynt, yna dylid sicrhau bod trawsgrifiad perthnasol ar gael. Yna, dylid anfon y trawsgrifiad ymlaen at Weinyddwr y Gylchdaith fel y gellir ymdrin ag ef yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff blaenorol y cyfarwyddyd hwn.
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn disodli cyfarwyddyd a ddosbarthwyd yn flaenorol yng nghyswllt yr uchod.
Yr Anrh. Meistr Ustus Tasker Watkins
Yr Anrh. Meistr Ustus Phillip Wien
1 Hydref 1979
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
