Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Dyrannu Busnes o fewn Llys y Goron
Barnwyr Preswyl
Bydd Barnwr Preswyl yn ymgymryd, yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn, y swyddogaethau canlynol yng nghanolfan Llys y Goron, neu'r grwp o ganolfannau, y'i penodir iddo:-
- gweithredu ar ran y Barnwyr Llywyddol i weithredu cyfarwyddiadau'r Arglwydd Brif Ustus ar gyfer dosbarthu a dyrannu busnes a bod yn gyffredinol gyfrifol, felly, am ddyrannu busnes barnwrol o fewn ei ganolfan neu grwp;
- sicrhau y caiff achosion eu cyfeirio at y Barnwyr Llywyddol yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn ac yr ymgynghorir â hwynt pan fo hynny'n briodol;
- hysbysu'r Barnwyr Llywyddol pan fo'n disgwyl bod yn absennol o'r ganolfan am gyfnod. Bryd hynny, dylid gofyn i farnwr arall, os oes angen, weithredu ar ei ran.
Rheoli Busnes Barnwrol
Mae'r achosion a restrir i'w profi gerbron Barnwr Uchel Lys mewn Canolfan Llys y Goron yng ngofal y barnwr hwnnw.
Mae'n bosib i Farnwr Uchel Lys, trwy ymgynghori â Barnwr Llywyddol, ryddhau achos ar restr Barnwr Uchel Lys, ar wahân i achos yn Nosbarth 1 neu achos o dreisio, anogaeth, ymgais neu gynllwyn i dreisio, neu o drosedd rhywiol difrifol yn erbyn plentyn dan 16 oed mewn unrhyw Ddosbarth, i'w brofi gan Farnwr Cylchdaith.
Caniateir rhyddhau trosedd o lofruddiaeth, trais rhywiol, anogaeth, ymgais neu gynllwyn i gyflawni trosedd o'r fath, neu drosedd rhywiol difrifol yn erbyn plentyn o dan 16 o unrhyw Ddosbarth, trwy neu ar awdurdod Barnwr Llywyddol i'w brofi'n unig gan Farnwr Cylchdaith a awdurdodwyd gan yr Arglwydd Brif Ustus i brofi achosion o'r fath.
Mae'n bosib, trwy ganiatâd y Barnwr Llywyddol, dyrannu achos yn Nosbarth 2, ar wahân i drosedd o dreisio, anogaeth, ymgais neu gynllwynio i dreisio, neu drosedd rhywiol difrifol yn erbyn plentyn dan 16, gan Farnwr Uchel Lys neu Farnwr Preswyl i'w brofi gan Farnwr Cylchdaith a awdurdodwyd gan y Barnwyr Llywyddol at y diben hwn.
Bydd y Barnwyr Preswyl yn rhoi ystyriaeth bersonol i ddyrannu achosion yn Nosbarthiadau 3 a 4 yn y categorïau canlynol:-
- achosion o farwolaeth neu berygl difrifol i fywyd, neu beri niwed difrifol, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â gyrru yn y categori hwn sy'n codi'n sgîl gyrru peryglus a/neu alcohol gormodol;
- achosion sy'n gysylltiedig â honiad o ddrylliau wedi'u llwytho;
- achosion o losgi neu ddifrod troseddol gyda bwriad i beryglu bywyd;
- achosion o dwyllo adrannau'r Llywodraeth neu awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill o symiau sy'n fwy na £25,000;
- troseddau o dan Ddeddf Ffugio a Drwgfathu 1981 lle bo'r symiau o arian neu werth y nwyddau dan sylw yn fwy na £10,000;
- troseddau sy'n gysylltiedig â thrais tuag at swyddog o'r heddlu sy'n golygu bod y swyddog yn anabl i weithio am fwy na 28 diwrnod;
- unrhyw drosedd sy'n golygu colled ariannol i berson neu gorff o swm sy'n fwy na £100,000;
- achosion lle mae perygl i deimlad gwleidyddol neu hiliol sylweddol gael ei gyffroi gan y trosedd neu'r treial;
- achosion sydd wedi achosi pryder cyhoeddus cyffredinol;
- achosion o ladrad neu o ymosod gan fwriadu lladrata lle defnyddiwyd trais dybryd, neu lle'r achoswyd niwed difrifol, neu lle'r oedd y cyhuddedig wedi'i arfogi ag arf peryglus at ddiben y lladrad, neu lle bwriadwyd lladrata o fanc, cymdeithas adeiladu, neu swyddfa bost;
- achosion sy'n ymwneud â chynhyrchu neu ddosbarthu cyflenwadau sylweddol o gyffuriau;
- achosion lle mae'r treial yn debyg o bara'n hwy na 10 diwrnod;
- achosion sy'n golygu bod mwy na 5 o ddiffynyddion yn sefyll eu prawf;
- achosion lle mae'r sawl a gyhuddir mewn swydd gyhoeddus uwch, neu'n aelod o broffesiwn neu berson arall sy'n ymgymryd â swydd neu gyfrifoldeb arbennig i'r cyhoedd, gan gynnwys swyddog o'r heddlu pan fo'n gweithredu felly;
- achosion sy'n debyg o gynnwys mater cyfreithiol dyrys, neu lle mae erlyniad am y trosedd yn brin neu'n newydd;
- unrhyw achos arall y mae ei natur, ei ddifrifoldeb neu'i amgylchiadau yn ei gwneud yn ddymunol y dylai'r Barnwr Preswyl ystyried ei ddyrannu, e.e. terfysg, affräe, neu gynnwrf cyhoeddus o fath arall;
Y Drefn
Pan ofynnir i Farnwr Llywyddol am gyfarwyddiadau i ddyrannu achos o lofruddiaeth, treisio rhywiol neu anogaeth, ymgais neu gynllwyn i gyflawni trosedd o'r fath, neu achos o drosedd rhywiol difrifol yn erbyn plentyn;
- llunnir crynodeb o'r ffeithiau gan yr erlyniad neu, fel y bo'n briodol, gan y llys ac ynddo, amlinellir y wybodaeth gyffredinol am y diffynnydd a'r dioddefydd a manylion bras am y trosedd;
- cyflwynir y crynodeb, ynghlwm wrth y papurau perthnasol, sef y dogfennau traddodi, yr arddangosion, hanes blaenorol a ditiad, i'r Barnwr Preswyl;
- bydd y Barnwr Preswyl yn cyflwyno'r crynodeb a'r papurau perthnasol yn yr achos i'r Barnwr Llywyddol, ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael am y ple a ragdybir, hyd tebygol a dyddiad y treial ac unrhyw faterion perthnasol eraill (gan gynnwys amser a dreuliwyd yn y ddalfa) a bydd yn argymell a ddylid profi'r achos gan Farnwr Uchel Lys neu Farnwr Cylchdaith, gan enwi'r Barnwr Cylchdaith pryd bynnag y bo hynny'n briodol.
Cyfeirio at Farnwyr Llywyddol
Pan fydd Barnwr Preswyl, o dan y cyfarwyddiadau hyn, yn cyfeirio unrhyw fater at Farnwr Llywyddol, bydd y cyfeiriad hwnnw:
- os oes Barnwr Llywyddol yn bresennol ar y Gylchdaith, at y Barnwr Llywyddol hwnnw;
- os nad oes Barnwr Llywyddol ar y Gylchdaith, at y Barnwr Llywyddol sy'n eistedd yn Llundain.
Cyfrifoldebau Staff y Llys
Wrth weithredu ei gyfrifoldebau, bydd y Barnwr Preswyl yn gweithio trwy ymgynghori'n glos gyda Rheolwr Grwp, Rheolwr y Llys, a'r swyddog Rhestru a ddylai amlygu yn ystod camau cychwynnol yr achosion hynny lle cafwyd, neu lle rhagwelir, oedi neu anhawster o safbwynt rhestru.
Oedi
Cyfrifoldeb y Barnwr Preswyl yw sicrhau fod pob achos yn ei ganolfan yn mynd i dreial gan oedi cyn lleied ag y bo modd. Mae'r Atodiad i'r cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau gweinyddol ar gyfer ymdrin ag achosion sy'n disgwyl ers tro i fynd i dreial ac ar gyfer adrodd arnynt.
Cyfarwyddiadau Blaenorol
Diddymir, trwy hyn, Gyfarwyddiadau Blaenorol y Barnwyr Llywyddol o safbwynt dyrannu a dosbarthu busnes Llys y Goron.
Yr Anrh. Meistr Ustus Tasker Watkins
Yr Anrh. Meistr Ustus Anthony Evans
Yr Anrh. Meistr Ustus John Roche
8fed Gorffennaf 1988/Diwygiedig 20 Tachwedd 2000
Atodiad i Gyfarwyddiadau Barnwyr Llywyddol Cylchdaith Cymru a Chaer
Achosion sy'n Disgwyl i fynd i Dreial ers Tro
Bydd y Barnwr Preswyl yn trefnu i gael gwybod o leiaf unwaith y mis am bob achos yn ei ganolfan nad yw'r treial ar ei gyfer wedi dechrau un wythnos ar bymtheg ar ôl traddodi yn achos diffynnydd sydd ar fechnïaeth, neu dreial nad yw wedi dechrau wyth wythnos ar ôl traddodi pan fo'r diffynnydd yn y ddalfa. Dylai'r wybodaeth gynnwys manylion am natur y trosedd, gwybodaeth berthnasol arall am y diffynnydd, y dyddiad traddodi, dyddiad disgwyliedig y treial a'r rheswm dros yr oedi.
Bydd y Barnwr Preswyl yn gweithredu fel y gwêl yn briodol i sicrhau y bydd yr achosion yr adroddir amdanynt wrtho yn mynd i dreial gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd.
Bydd y Barnwr Preswyl yn cyflwyno i'r Barnwyr Llywyddol y wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 1 yr Atodiad hwn ynghyd ag adroddiad byr ar y sefyllfa waith gyffredinol yn ei ganolfan.
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
