English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Rhoi Esboniad a Mynegiant o Ofid i Dystion

Pan fo achos wedi'i restru ar gyfer treial ond heb ei gynnal a'i fod wedi'i ohirio i ddiwrnod arall am ba reswm bynnag, dylid esbonio i'r tystion yn yr achos hwnnw a fu'n bresennol pam nad oedd modd bwrw ymlaen â'r achos a mynegi gofid am yr anghyfleustra a achoswyd iddynt.

Dylid cyhoeddi'r esboniad a'r mynegiant o ofid mewn llys agored gan y Barnwr y rhestrwyd yr achos yn ei lys.

Rhaid bod yn ofalus i sicrhau nad yw'r broses yn niweidiol i unrhyw dreial sy'n mynd rhagddo. Os oes raid, dylid gofyn i'r rheithgor yn y treial hwnnw adael y llys tra rhoddir yr esboniad a'r mynegiant o ofid.

Barnwyr Llywyddol

3 Awst 1994

< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .