Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Ym mhob achos troseddol a draddodir/drosglwyddir i Lys y Goron lle mae naill ai'r erlyniad neu'r amddiffyniad yn gofyn am ddadlennu gwybodaeth gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol, ac er mwyn sicrhau mai dim ond ceisiadau gwirioneddol angenrheidiol a gaiff eu dilyn i fyny, ac nad ydynt yn peri unrhyw oedi gormodol i'r achos yn Llys y Goron, rhaid glynu wrth yr ymarfer canlynol:
Rhaid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig am ddadlennu gwybodaeth yn uniongyrchol i'r adran Gwasanaethau Cymdeithasol dan sylw ac anfon copïau at y partïon eraill yn yr achos a byddant yn:
a) cynnwys yr holl wybodaeth sydd ar gael i'r ymgeisydd i ddynodi testun y ffeil gan gynnwys enw neu enwau, cyfeiriadau perthnasol, ac unrhyw fanylion eraill sydd ar gael i hwyluso'r gwaith o chwilio am y ffeil;
b) nodi'r math o wybodaeth sy'n angenrheidiol ac esbonio pan yr honnir ei fod yn dderbyniol mewn achos troseddol, ac yn berthnasol iddo, a pham na ellir ei chael o ffynhonnell ar wahân i ffeiliau'r Gwasanaethau Cymdeithasol;
c) cael eu hanfon gyda chopïau o:
i) y Ditiad;
ii) Talfyriad yr Achos; a
iii) datganiadau tyst/deponiadau/cofnod o gyfweliad fideo yr Achwynydd.
Rhaid cyflwyno ceisiadau mewn da bryd cyn dyddiad y Gwrandawiad Pledio a Chyfarwyddo (GPCh) ac yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid i'r ymgeiswyr fod yn barod i gyfiawnhau eu ceisiadau. Rhaid i'r parti sy'n gwneud y cais hysbysu'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol o ddyddiad y GPCh a byddir yn gwrando ar y cais yn y GPCh.
Yn y paragraffau canlynol, bwriedir y terfynau amser y cyfeirir atynt fel uchafswm. Mae'n bosib y bydd y Barnwr Preswyl yn awdurdodi estyniad mewn achosion cymhleth. Ni fwriedir i unrhyw beth yn y Cyfarwyddyd hwn rwystro achosion rhag derbyn sylw yn gyflymach, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.
O leiaf 7 niwrnod cyn y GPCh, bydd yr ymgeisydd yn codi gwŷs i Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am gopi ysgrifenedig o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Yn y GPCh, bydd y Llys yn ystyried a oes raid wrth Wrandawiad Imwnedd er Budd y Cyhoedd (IBC) ac os nad oes, bydd yn mynd rhagddo i restru ar gyfer Treial yn y ffordd arferol.
Os bernir yn y GPCh bod yn rhaid wrth wrandawiad IBC, trefnir dyddiad y Treial a nodir pwy fydd Barnwr y Treial. Hefyd, pennir dyddiad ar gyfer gwrandawiad rhagarweiniol oddeutu 7 niwrnod cyn dyddiad y Treial gerbron Barnwr y Treial ar gyfer Gwrandawiad IBC.
Os yw'r mater o IBC yn codi'n eithriadol ac yn anochel ar ôl y GPCh, cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd cyflwyno cais pellach i'r Llys am gyfarwyddiadau rhag blaen, ac i gydymffurfio ym mhob ystyr arall â'r Cyfarwyddyd Ymarfer fel pe bai'r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad cyfarwyddo yn ddyddiad i'r GPCh.
Cyn pen 14 diwrnod ar ôl i'r Llys roi cyfarwyddiadau yng nghyswllt IBC bydd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb trwy:
- ffeilio yn y Llys Atodlen o Ddogfennau mewn tair rhan, fel a ganlyn:
Rhan 1: O BOSIB YN BERTHNASOL AC YN DDERBYNIOL - Dim gwrthwynebiad i ddadlennu
Rhan 2: O BOSIB YN BERTHNASOL OND YN ANNERBYNIOL - Gwrthwynebir dadlennu
Rhan 3: AMHERTHNASOL - Gwrthwynebir dadlennu
Bydd copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhannau 1 a 2 yn cyd-fynd â'r Atodlen ynghyd ag Affidafid sy'n amlinellu ymateb Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Wŷs. Ar yr un pryd, byddir yn cyflwyno'r ffeil gyflawn i ofal y llys i'w darllen gan y Barnwr yn unig. Cyflwynir copi o'r Atodlen a'r Affidafid [ond nid copïau o'r dogfennau] o fewn yr un cyfnod i'r Erlyniad a'r Amddiffyniad.
Yn y Gwrandawiad IBC, neu cyn y gwrandawiad, mae'n bosib y bydd y Barnwr, ar ôl ystyried y dogfennau yn Rhan 1 yr Atodlen, yn gorchymyn iddynt gael eu dadlennu yn ddi-oed.
Yn y gwrandawiad IBC, ar ôl gwrando ar y dadleuon, bydd y Barnwr yn ystyried a ddylid gorchymyn dadlennu pob un o'r dogfennau yn Rhannau II a/neu III yr Atodlen.
Bydd yn ofynnol i bob parti ymrwymo i gadw a gwneud defnydd o'r wybodaeth a dderbyniant o ganlyniad i unrhyw Wrandawiad IBC at ddiben yr achos troseddol y mae'r Gwrandawiad IBC yn berthnasol iddo yn unig ac y byddant yn dychwelyd i'w ffynonellau priodol yr holl ddeunydd a'r copïau ohonynt a gafwyd ar ddiwedd y cyfryw achos troseddol.
Yr Anrh. Meistr Ustus Curtis
Yr Anrh. Meistr Ustus Maurice Kay
18 Ebrill 1996
Lluniwyd y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn ar ôl ystyried barn a phrofiadau Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol lleol ac yn dilyn trafodaeth gan Bwyllgorau Cyswllt Cyfiawnder Troseddol Ardal.
Ei bwrpas yw cyflwyno trefn unffurf ar gyfer delio â'r nifer gynyddol o geisiadau mewn achosion troseddol i ddadlennu gwybodaeth o ffeiliau'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae pob cais yn golygu baich gwaith drud a llafurus i adnoddau'r Gwasanaethau Cymdeithasol a gallai hefyd achosi oedi yn y treial. Felly, mae tri bwriad i'r drefn a amlinellir yn y Cyfarwyddyd Ymarfer:
i) ceisio sicrhau mai dim ond ceisiadau gwirioneddol angenrheidiol a gaiff eu cyflwyno ac na roddir unrhyw anogaeth i "dripiau pysgota";
ii) rhesymoli'r broses o adfer a chyflenwi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i bryderon y Gwasanaethau Cymdeithasol o safbwynt yr angen am gyfrinachedd a'u dyletswydd i warchod y wybodaeth a gedwir yn eu ffeiliau ac, ar yr un pryd, i sicrhau bod y partïon yn yr achos troseddol yn gallu cyrchu at yr holl wybodaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau treial teg; ac
iii) ceisio sicrhau nad yw'r gwrthdaro rhwng buddiannau sy'n gwneud Gwrandawiad IBC yn ofynnol yn achosi gormod o oedi yn hynt yr achos troseddol.
Nid yw'r drefn i'w chyfyngu i "achosion plant" yn unig. Gofynnir yn aml i'r Gwasanaethau Cymdeithasol am wybodaeth am bobl y maent yn cadw ffeiliau arnynt ers pan oeddent yn blant ond sydd, erbyn y cais am ddadlennu'r wybodaeth, bellach yn oedolion.
Mae braslun o'r amserlen a ddisgrifir yn y Cyfarwyddyd Ymarfer ar y dudalen nesaf. Sylwch mai uchafswm yw'r amseroedd a ddangosir. Ni fydd unrhyw beth yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, nac yn y nodyn esboniadol, yn rhwystro achosion rhag derbyn sylw yn gyflymach, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.
Mae Paragraff 11 y Cyfarwyddyd yn adlewyrchu'r angen i bartïon y rhyddheir gwybodaeth iddynt beidio â'i defnyddio at unrhyw ddiben arall ar wahân i'r achos troseddol y mae'r gwrandawiad IBC yn ymwneud ag ef. Cafwyd enghreifftiau yn y gorffennol o ddefnyddio gwybodaeth o'r fath heb awdurdod.
|
GPCh
|
Gwrandawiad IBC
|
Treial
|
||
|---|---|---|---|---|
|
--7 Niwrnod--
|
--14 Diwrnod--
|
-7 Niwrnod-
|
-7 Niwrnod-
|
|
| Cyflwyno'r Wŷs i'r Gwasanaethau Cymdeithasol o leiaf 7 niwrnod cyn y GPCh | Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb: adfer gwybodaeth; paratoi'r Atodlen a'r affidafid a'u ffeilio yn y Llys | I'r Barnwr ystyried y dogfennau sydd wedi'u ffeilio |
I'r partïon ystyried y dogfennau a gyflwynir ar ôl y gwrandawiad IBC |
|
|
----------------------------------28 Diwrnod-----------------
|
||||
|
SYLWCH MAI UCHAFSWM YW'R AMSEROEDD HYN |
||||
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
