Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Llys y Goron yn Warrington: Statws Canolfan yr Ail Haen
Gyda chytundeb yr Arglwydd Ganghellor ac yn unol â pharagraffau 2 a 3 y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan yr Arglwydd Brif Ustus ar gyfer Dosbarthu Busnes Llys y Goron a Dyrannu i Ganolfannau Llys y Goron, dyddiedig yr 2il ddiwrnod o Dachwedd 1987, ac a ddiwygiwyd ar y 26ain diwrnod o Fai 1995, cyfarwyddir o ddydd Llun y 7fed diwrnod o Ebrill 1997 y bydd Llys y Goron yn Warrington yn Ganolfan yr Ail Haen.
O'r dyddiad hwnnw, ymdrinnir â Llys y Goron yn Warrington fel Canolfan lle bydd un o Farnwyr yr Uchel Lys yn eistedd yn rheolaidd.
Cyfarwyddir ymhellach, o'r dyddiad hwnnw, y dylai Ustusiaid Llysoedd Ynadon ardaloedd Halton a Warrington, wrth draddodi rhywun i dreial dan Adran 6 Deddf Llysoedd Ynadon 1980, os yw'r trosedd, neu unrhyw rai o'r troseddau, yn dod o dan ddosbarth 1, 2 neu 3, draddodi'r person hwnnw i Lys y Goron yn Warrington.
Yr Anrh Mr Ustus Curtis
Yr Anrh Mr Ustus Maurice Kay
10 Ionawr 1997
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
