English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Y Drefn Trac-Cyflym Ddiwygiedig mewn Achosion o Gam-drin Plant ac mewn Achosion Eraill lle bydd Plant yn Cyflwyno Tystiolaeth

Cyhoeddwyd y Cyfarwyddyd Hwn gan y Barnwyr Llywyddol i hwyluso'r broses o ymdrin yn effeithlon ac effeithiol ag achosion o Gam-drin Plant ac achosion eraill lle ceir tystion sy'n agored i niwed yn Llys y Goron.

Bydd yn berthnasol yn yr achosion a ganlyn:

Cam-drin Plant

Unrhyw achos lle bo'r dioddefydd o dan 18 oed sy'n gysylltiedig ag:

- ymosodiad, anaf neu fygythiad o anaf; neu

- drosedd o dan Ddeddf Troseddau Rhyw 1956, Deddf Troseddau Rhyw 1967, Deddf Anwedduster gyda Phlant 1960, adran 54 Deddf Cyfraith Droseddol 1977, Deddf Amddiffyn Plant 1978, neu adran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933.

Tystion sy'n Blant

Unrhyw achos sy'n ymwneud â throsedd garcharadwy lle bydd tystiolaeth person o dan 16 oed yn debyg o gael ei herio, ar wahân i achosion yn y Llys Ieuenctid.

^ Brig

Diffiniad Pellach

Oedran: y dyddiad sy'n pennu oedran y dioddefydd neu'r tyst sy'n blentyn yw dyddiad y gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon.

Hyd yn oed pan fo achos yn gymwys yn unol â'r meini prawf uchod, mae'n bosib na fydd angen ei roi trwy'r Trac-cyflym os yw'n gwbl amlwg na fydd yn rhaid i'r dioddefydd na'r tyst ymddangos yn y llys oherwydd, er enghraifft, bod y Diffynnydd yn llwyr fwriadu pledio'n euog i'r cyhuddiad o'r dechrau neu oherwydd nad yw'r dystiolaeth yn cael ei herio. Dylai achos o'r fath fynd rhagddo heb oedi os yw hynny er budd i'r dioddefydd ond nid oes raid i hynny fod ar sail y Trac-cyflym.

Y prawf terfynol y dylid ei ddefnyddio yw - A yw o fudd i'r plentyn neu'r dioddefydd neu'r tyst, ac er lles iddo, bod yr achos yn mynd rhagddo yn ddi-oed ac a yw'r achos, felly, i dderbyn blaenoriaeth. Os mai 'Ydi' yw'r ateb, yna dylai fod yn rhan o'r cynllun.

Bydd yr Heddlu yn nodi'r achosion y bydd y drefn hon yn berthnasol iddynt. Mewn achosion o'r fath, os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyflwyno Gwybodaeth Ymlaen Llaw cyn cyflwyno'r papurau trosglwyddo, bydd yr ohebiaeth i dwrna'r amddiffyniad, sy'n cyd-fynd â'r wybodaeth hon, yn cyfeirio at y ffaith bod yr achos dan sylw yn achos dan y drefn Trac-cyflym.

Dylid cyflwyno cais am Gymorth Cyfreithiol cyn gynted ag sy'n bosibl a, fan bellaf, yn yr ymddangosiad cyntaf yn y Llys. Dylai'r cais am Gymorth Cyfreithiol gynnwys cais am i'r Orchymyn gynnwys Cyngor gan y Cwnsler.  Dylid cyflwyno llythyr gyda'r cais am Gymorth Cyfreithiol yn esbonio'r rhesymau dros wneud y cais.

Ni ddylai'r ymddangosiad cyntaf yn y Llys, boed hynny ar fechnïaeth neu mewn cystodaeth, fod yn ddim hwy na 2 ddiwrnod gwaith ar ôl cyhuddo'r Diffynnydd yn ffurfiol. Yn y Gwrandawiad hwnnw, bydd Clerc yr Ynadon yn ceisio sicrhau y caiff y Diffynnydd ei gynrychioli. Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron, bryd hynny, yn rhoi gwybod i Glerc yr Ynadon mai achos yn unol â'r drefn Trac-cyflym yw hwn a bydd y Clerc yn nodi hynny'n ei ffeil.

^ Brig

Bydd yr Heddlu yn ymrwymo i baratoi a chyflwyno eu ffeil lawn i Wasanaeth Erlyn y Goron cyn pen 28 diwrnod ar ôl yr ymddangosiad cyntaf yn y Llys.

Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymrwymo, cyn pen 14 diwrnod pellach, i (a) adolygu'r ffeil, a (b) i baratoi a chyflwyno'r dogfennau trosglwyddo. Ym mhob achos priodol, defnyddir y drefn rhybudd trosglwyddo sy'n gymwys i achosion o Gam-drin Plant.

Cynhelir y Gwrandawiad Pledio a Chyfarwyddo (GPCh) cyn pen 3 wythnos ar ôl trosglwyddo'r achos.

Pryd bynnag y bo modd, rhoddir dyddiad pendant yn y GPCh a hynny o fewn y 6 wythnos i ddod.

Rhaid cyflwyno unrhyw gais i ddiddymu'r dyddiad penodedig naill ai i Farnwr y Treial neu i'r Barnwr Preswyl. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol iawn y caniateir gohiriad.

Mae'r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn disodli Cyfarwyddyd Ymarfer 14 Ebrill, 1995.

Yr Anrh. Meistr Ustus Curtis
Yr Anrh. Meistr Ustus Maurice Kay

1 Mehefin 1997

< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 11 April 2005 10:09. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .