Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Defnyddio'r Iaith Gymraeg Mewn Achosion Yn Llysoedd Y Goron Yng Nghymru
Diben y Cyfarwyddiadau hyn yw adlewyrchu egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993 sef y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Ym mhob achos lle y bydd tystion neu bartion o bosibl am ddefnyddio'r Gymraeg neu lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg mewn unrhyw ddogfen a gyflwynir gerbron y Llys, cyfrifoldeb y cynrychiolwyr cyfreithiol yw hysbysu'r Llys o hyn fel y gellir gwneud trefniadau priodol ar gyfer rhestru'r achos. Os gwyddys bod posibilrwydd i'r Gymraeg gael ei defnyddio adeg traddodi, trosglwyddo neu apelio i Lys y Goron, dylid hysbysu'r Llys ar unwaith ar ôl traddodi neu drosglwyddo, neu pan gofnodir Rhybudd o Apêl. Fel arall, dylid hysbysu'r Llys cyn gynted ag y gwyddys bod posibilrwydd i'r Gymraeg gael ei defnyddio.
Os achosir costau yn sgil methu â chydymffurfio â'r Cyfarwyddiadau hyn, gellir codi gorchymyn costau a wastraffwyd yn erbyn y parti, a/neu ei gynrychiolwyr cyfreithiol, sydd heb gydymffurfio â hwy.
Nid yw'r gyfraith yn caniatáu dethol Rheithgor mewn modd sy'n galluogi'r Llys i ganfod a yw Rheithiwr yn siarad Cymraeg ai peidio nac i sicrhau Rheithgor y mae ei aelodau yn ddwyieithog i wrando achos lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg.
Rhaid i eiriolwr mewn achos lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg godi'r mater mewn gwrandawiadau Cyfarwyddo a Phledio ac ardystio'r manylion ar Holiadur y Barnwr fel y gellir rhoi'r cyfarwyddiadau priodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r achos.
Dylai'r swyddog rhestru, mewn ymgynghoriad â'r Barnwr Preswyl, sicrhau bod achos lle efallai y defnyddir y Gymraeg yn cael ei restru:
a) pryd bynnag y bydd hynny'n ymarferol bosib, gerbron Barnwr Cymraeg ei iaith; a
b) mewn Llys yng Nghymru gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
Pryd bynnag y bydd angen cyfieithydd i gyfieithu tystiolaeth o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg i'r Saesneg, bydd rheolwr y llys lle cynhelir yr achos yn sicrhau y trefnir i gyfieithydd, y mae ei enw ar restr y llys o gyfieithwyr cymeradwy, fod yn bresennol.
a) Wrth annerch y Rheithwyr ar ddechrau cyfnod eu gwasanaeth fel rheithwyr rhaid i Feili'r Rheithgor eu hysbysu y gall pob Rheithiwr dyngu Llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.
b) Ar ôl dethol Rheithgor i wrando achos, a chyn tyngu llw, bydd y Swyddog Llys sy'n gweinyddu llwon y Rheithgor yn hysbysu'r Rheithwyr mewn llys agored y caiff pob Rheithiwr dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.
Pan elwir pob tyst bydd y swyddog llys sy'n gweinyddu'r Llw neu'r Cadarnhad yn hysbysu'r tyst y gall dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.
Oni bai nad yw hi'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, dylid agor a chau'r llys yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.
Os cyfyd unrhyw gwestiwn neu broblem ynghylch gweithredu'r cyfarwyddiadau uchod, dylid yn y lle cyntaf gysylltu â'r Barnwr Cyswllt dros faterion y Gymraeg ar y Gylchdaith.
Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Bingham o Cornhill
16 Hydref 1998
<< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
