English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Cyfarwyddiadau ar gyfer Cynnal Treialon Achosion Troseddol yn Abertawe, Hwlffordd a Chaerfyrddin
Gwrandawiadau Pledio a Chyfarwyddo

Disgwylir i'r cwnsler a gyflogwyd ar gyfer y treial fod yn bresennol yn y Gwrandawiad Pledio a Chyfarwyddo (GPCh) hefyd, os yw hynny'n ymarferol bosibl.

Os nad yw'r cwnsler a gyflogwyd ar gyfer y treial yn gallu bod yn bresennol yn y GPCh, yna rhaid i'r cwnsler sy'n bresennol fod mewn sefyllfa i ymdrin ag unrhyw fater a allai godi. Bydd yn rhaid iddo, yn fwyaf arbennig, fod yn gyfarwydd â'r canlynol:

- datganiad yr amddiffyniad a'r materion i'w codi yn y treial;

- y gofynion o ran tystion; mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo esbonio'r gofynion o ran tystion a restrir yn unol â Rheol 5 y Rheolau Ymarfer ar gyfer gwrandawiadau GPCh;

- yr angen i olygu cyfweliad y diffynnydd ymhellach;

- os oes raid wrth dystiolaeth gan arbenigwr, y materion sy'n codi a'r amserlen arfaethedig;

- a yw'r tystion a'r cwnsler ar gael ar gyfer y treial;

- amcan cywir o hyd y treial;

- pa sawl cownt sydd yn y ditiad ac a yw'r pledio iddo yn dderbyniol ai peidio.

^ Brig

Achosion Wrth Gefn neu Achosion Symudol sydd wedi'u Rhestru i fynd i Dreial

Bydd y swyddog rhestru yn derbyn cyfarwyddiadau i nodi pob achos symudol sydd wedi'i restru i fynd i dreial fel rhai sydd ar gael i'w profi mewn unrhyw lys sy'n eistedd yn Abertawe y diwrnod hwnnw. Ni restrir achosion o'r fath i ymddangos gerbron llys penodol.

Golyga hyn na all cwnsler dderbyn cyfarwyddiadau ar gyfer treial achosion symudol a gallai hynny rwystro treialon achosion symudol rhag cael eu cynnal oherwydd eu hymrwymiadau mewn achos sydd wedi'i restru i ymddangos gerbron llys penodol y diwrnod hwnnw.

Pennir nifer yr achosion symudol a restrir bob dydd gan y swyddog rhestru ar ôl ymgynghori gyda'r Barnwr Preswyl.

Dim ond gyda chymeradwyaeth benodol y Barnwr Preswyl y caniateir rhestru achosion wrth gefn; oni cheir cyfarwyddyd penodol ganddo, ni chaiff y cwnsler dderbyn cyfarwyddiadau ar gyfer y treial wrth gefn a byddai hynny'n rhwystro achos rhag cael ei drosglwyddo i lys arall.

Bydd y swyddog rhestru yn rhestru'r achos symudol gydag amser 'nid cyn'. Dylid trefnu bod modd cysylltu â thystion dros y ffôn neu, os nad yw hynny'n ymarferol bosibl neu'n creu sefyllfa a allai arwain at i dyst beidio â bod yn bresennol, dylai'r tyst fynd i Abertawe yn unol â'r amser 'nid cyn'.

Ni chaiff achosion symudol eu rhyddhau o restr y dydd heb eu crybwyll gerbron y Barnwr Preswyl.

Unwaith y byddant wedi'u rhestru, ni chaiff achosion eu dileu oddi ar y rhestr gan y swyddog rhestru heb gymeradwyaeth y Barnwr Preswyl.

^ Brig

Caerfyrddin a Hwlffordd

Cynhelir yr achosion a restrwyd i fynd i dreial yn Hwlffordd, pryd bynnag y bydd hynny'n ymarferol bosibl, yn Hwlffordd ei hun ac ni chânt eu trosglwyddo i lys arall ar ddiwrnod y treial.

Atgoffir y Cwnsler a'r cyfreithwyr mai ei dyletswydd hwy yw sicrhau y rhoddir gwybod cyn gynted â phosibl i'r swyddog rhestru a yw'r ple yn debyg o newid neu a oes unrhyw ystyriaeth arall a allai ei gwneud yn amhosib gwrando ar achos sydd wedi'i restru ar gyfer treial ar y diwrnod a nodir.

Am y tro, yr un fydd y trefniadau ar gyfer Caerfyrddin a Hwlffordd, nes y cânt eu hadolygu ymhellach.

Cyfnodau Eistedd i Gofiaduron a Chofiaduron Cynorthwyol

Oni bai fod y Barnwr Preswyl yn cytuno'n benodol i hynny, ni ddyrennir cyfnod eistedd o lai na 9 neu 10 diwrnod yn Abertawe i'r un Cofiadur na Chofiadur Cynorthwyol.

Daw'r cyfarwyddyd hwn i rym rhag blaen.

Yr Anrh. Meistr Ustus Maurice Kay
Yr Anrh. Meistr Ustus Thomas

28 Hydref 1998

< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .