English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Cais i Ymestyn Cyfnodau yn y Ddalfa

Bydd y Cyfarwyddiadau canlynol yn berthnasol ym mhob Llys y Goron ar Gylchdaith Cymru a Chaer ac fe'u cyhoeddir yn dilyn y dyfarniad yn y Llys Rhanbarthol yn R -v- Llys y Goron Manceinion, Ex parte McDonald yn unol â'r adroddiad yn The Times ar 19eg Tachwedd 1998.

Diddymir rhag blaen yr ymarfer presennol o gyflwyno a chaniatáu ceisiadau diwrthwynebiad yn ysgrifenedig i ymestyn cyfnodau yn y ddalfa.

Rhestrir pob cais o'r fath, yn ddieithriad, mewn Llys agored. Rhaid i'r Eiriolwyr ar gyfer pob parti a phob Diffynnydd perthnasol fod yn bresennol.

Rhestrir unrhyw gais:

a) gerbron barnwr enwebedig y treial, os oes barnwr o'r fath, ac os yw ar gael; neu

b) os yw'r achos wedi'i neilltuo i Farnwr Uchel Lys, gerbron unrhyw Farnwr Uchel Lys a allai fod yn eistedd;

c) mewn unrhyw achos arall a phan nad yw'r Barnwr neu'r Barnwr Uchel Lys ar gael, gerbron y Barnwr Preswyl. Os nad yw'r Barnwr Preswyl ar gael, rhaid i'r mater fynd gerbron y Barnwr Cylchdaith uchaf sy'n eistedd ar y pryd.

Dylai'r Eiriolwyr sydd wedi derbyn cyfarwyddiadau ynghylch y treial fynychu'r gwrandawiad hefyd, os yn bosibl. Os nad yw hyn yn bosib, bydd angen i'r Eiriolwyr ar y naill ochr a'r llall, yn enwedig Eiriolwyr yr Erlyniad, dderbyn cyfarwyddiadau ar bob agwedd o'r achos sy'n ymwneud â'r amserlen, natur yr achos a bob ffactor a allai fod yn briodol i hysbysu'r Llys o bob mater a allai effeithio ar y dyfarniad sydd i'w wneud, yn unol ag Adran 22(3) Deddf Erlyn Troseddwyr 1985 ac yn unol â dyfarniad y Llys Rhanbarthol. Bydd disgwyl i bob Eiriolwr sy'n ymddangos ar geisiadau o'r fath fod yn gyfarwydd iawn â'r dyfarniad.

Rhestrir ceisiadau o'r fath, fel arfer, am 10.00 am., gyda'r angen i gofio bod yn rhaid rhoi ystyriaeth lawn a gofalus i bob cais, pa mor fyr bynnag y bydd yr estyniad y gofynnir amdano, a bod yn rhaid, felly, caniatáu amser sylweddol i wneud hynny. Dylai'r Eiriolwyr roi gwybod i'r Llys o leiaf 24 awr cyn y gwrandawiad beth yw hyd tebygol y cais.

Yr Anrh. Meistr Ustus Maurice Kay
Yr Anrh. Meistr Ustus Thomas

18 Rhagfyr 1998

< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .