Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Cyfarwyddiadau ar gyfer Cynnal Gwrandawiadau Pledio a Chyfarwyddo yng Nghaerdydd a Chasnewydd
Cyn y gwrandawiad pledio a chyfarwyddo (GPCh)
- rhaid i'r cwnsler ar ran yr erlyniad ystyried:-
a) a yw'r ditiad a ddrafftiwyd yn rhoi adlewyrchiad cywir o droseddrwydd y materion dan sylw ac unrhyw opsiynau realistig eraill a
b) pha bledion a fyddai'n dderbyniol;
rhaid iddo hysbysu Erlyniad y Goron yn unol â hynny
- rhaid i'r cwnsler ar ran yr amddiffyniad hysbysu'r diffynnydd yn llawn a dwyn ei sylw at ddarpariaethau Adran 48 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1994
- dylai'r cynrychiolwyr cyfreithiol, yng ngoleuni cyngor o'r fath, drafod pa mor dderbyniol yw unrhyw bledion gan y diffynnydd.
Disgwylir i'r cwnsler a fydd yn ymddangos yn y treial fod yn bresennol yn y GPCh, os yw hynny'n ymarferol bosibl; os nad yw'r cwnsler a fydd yn ymddangos yn y treial yn gallu bod yn bresennol, dylai sicrhau fod y cwnsler a fydd yn ymddangos yn y GPCh yn gyfarwydd â'r cyngor a roddwyd.
Os nad yw'r cwnsler a gyflogwyd ar gyfer y treial yn gallu bod yn bresennol yn y GPCh, yna rhaid i'r cwnsler sy'n bresennol fod mewn sefyllfa i ymdrin ag unrhyw fater a allai godi. Bydd yn rhaid iddo, yn fwyaf arbennig, fod yn gyfarwydd â'r canlynol:
- datganiad yr amddiffyniad a'r materion i'w codi yn y treial;
- y gofynion o ran tystion; mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo esbonio'r gofynion o ran tystion a restrir yn unol â Rheol 5 y Rheolau Ymarfer ar gyfer gwrandawiadau GPCh;
- yr angen i olygu cyfweliad y diffynnydd ymhellach;
- os oes raid wrth dystiolaeth gan arbenigwr, y materion sy'n codi a'r amserlen arfaethedig;
- a yw'r tystion a'r cwnsler ar gael ar gyfer y treial;
- amcan cywir o hyd y treial;
- pa sawl cownt sydd yn y ditiad ac a yw'r pledio iddo yn dderbyniol ai peidio.
Os oes raid wrth ragor o amser er mwyn gallu cynnal GPCh yn iawn, rhaid i'r cwnsler hysbysu'r llys pan restrir y GPCh ar y dechrau, o'r rhesymau pam na ellir ymdrin yn briodol â materion ac o unrhyw anfanteision o ohirio'r GPCh.
Os rhagwelir unrhyw anawsterau i gydymffurfio ag unrhyw orchymyn a wnaed yn y GPCh, rhaid rhoi gwybod i'r Swyddog Cynnydd Achosion cyn y daw'r amser sydd wedi'i neilltuo ar gyfer gweithredu'r gorchymyn i ben.
Os yw diffynnydd, ar ôl tendro ple o ddieuog yn y GPCh, yn dymuno newid ei ble, rhaid rhoi gwybod i'r Llys ac i Wasanaeth Erlyn y Goron ar unwaith fel y gellir rhestru'r mater ar gyfer gwrandawiad pellach cyn ei restru ar gyfer treial.
Bydd y trefniadau rhestru ar gyfer GPChs yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
Yr Anrh. Meistr Ustus Maurice Kay
Yr Anrh. Meistr Ustus Thomas
27 Ionawr 1999
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
