Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Llys Y Goron Caerdydd
Gyda chydsyniad yr Arglwydd Ganghellor, fe'n hawdurdodwyd gan Yr Arglwydd Brif Ustus i gyhoeddi'r gwelliant canlynol i'r Cyfarwyddyd Ymarfer (Barnwyr: Dulliau Cyfarch).
O hyn ymlaen, pan fo'n eistedd mewn llys, caiff y barnwr sy'n dal swydd Cofiadur Caerdydd ei gyfarch fel "Fy Arglwydd" neu "Fy Arglwyddes", fel y bo'n briodol.
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Judge
Yr Anrhydeddus Mr Ustus Maurice Kay
Yr Anrhydeddus Mr Ustus Thomas
18 Chwefror 1999
< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
|
^ Brig
|
