Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer
Cyfarwyddiadau ar gyfer Rhestru Treialon yng Nghaerdydd a Chasnewydd
Achosion wrth gefn neu achosion symudol sydd wedi'u rhestru ar gyfer treial
Dynodir yr achosion hynny sy'n addas i fod achosion symudol yn y Gwrandawiad Pledio a Chyfarwyddo.
Bydd y swyddog rhestru yn derbyn cyfarwyddiadau i nodi pob achos symudol sydd wedi'i restru i fynd i dreial fel rhai sydd ar gael i'w profi mewn unrhyw lys sy'n eistedd y diwrnod hwnnw yng Nghaerdydd neu yng Nghasnewydd. Ni restrir achosion o'r fath i ymddangos ger bron llys penodol.
Golyga hyn na all cwnsler dderbyn cyfarwyddiadau ar gyfer treial achosion symudol a gallai hynny rwystro treialon achosion symudol rhag cael eu cynnal oherwydd eu hymrwymiadau mewn achos sydd wedi'i restru i ymddangos ger bron llys penodol y diwrnod hwnnw.
Pennir nifer yr achosion symudol a restrir bob dydd gan y swyddog rhestru ar ôl ymgynghori gyda Chofiadur Caerdydd a'r Barnwr Preswyl yng Nghasnewydd.
Dim ond gyda chymeradwyaeth benodol Cofiadur Caerdydd neu'r Barnwr Preswyl yng Nghasnewydd y gellir rhestru achosion wrth gefn; oni cheir cyfarwyddyd penodol ganddo, ni chaiff y cwnsler dderbyn cyfarwyddiadau ar gyfer y treial wrth gefn a byddai hynny'n rhwystro achos rhag cael ei drosglwyddo i lys arall.
Bydd y swyddog rhestru yn rhestru'r achos symudol gydag amser 'nid cyn'. Dylid trefnu bod modd cysylltu â thystion dros y ffôn neu, os nad yw hynny'n ymarferol bosibl neu'n creu sefyllfa a allai arwain at i dyst beidio â bod yn bresennol, dylai'r tyst fynd i Gaerdydd yn unol â'r amser 'nid cyn'.
Ni chaiff achosion symudol eu rhyddhau o restr y dydd heb eu crybwyll gerbron Cofiadur Caerdydd neu'r Barnwr Preswyl yng Nghasnewydd.
Unwaith y byddant wedi'u rhestru, ni chaiff achosion eu dileu oddi ar y rhestr gan y swyddog rhestru heb gymeradwyaeth Cofiadur Caerdydd neu'r Barnwr Preswyl yng Nghasnewydd.
Yn absenoldeb Cofiadur Caerdydd neu'r Barnwr Preswyl yng Nghasnewydd, mae'n bosib i unrhyw Farnwr Cylchdaith, a enwebwyd ganddynt at y diben hwnnw, ymgymryd â'u swyddogaethau.
Yr Anrh. Meistr Ustus Maurice Kay
Yr Anrh. Meistr Ustus Thomas
26 Tachwedd 1999
<< Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer
