English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer Cyfarwyddyd Ymarfer


Nodiadau Meddygol

Pan fydd un o Swyddogion yr Heddlu yn cymryd datganiad gan ddarpar dyst sydd yn cyfeirio at anafiadau y mae ef neu hi wedi'u dioddef o ganlyniad i'r digwyddiad y mae'r Swyddog yn ymchwilio iddo, dylai'r Swyddog sicrhau y ceir y wybodaeth ganlynol::

a) Manylion unrhyw driniaeth feddygol a gafodd y tyst ar gyfer yr anafiadau hynny a'r dyddiad(au) pryd y cafwyd y driniaeth.

b) Enw'r ysbyty, y ganolfan feddygol neu'r feddygfa lle cafodd y driniaeth ac, os yn bosib, enw'r Meddyg a roddodd y driniaeth.

c) A yw'r tyst yn rhoi caniatâd ai peidio i'r Heddlu weld y cofnodion meddygol sy'n gysylltiedig â'r anafiadau a'r driniaeth y cyfeiriwyd ati ar gyfer unrhyw erlyniad a allai ddilyn.

Pan rydd tyst ganiatâd fel a esbonnir ym mharagraff 1© uchod, dylai'r Swyddog, sy'n cael datganiad gan Feddyg am yr anafiadau a ddioddefodd y tyst ac am y driniaeth feddygol a roddwyd i'r tyst, ofyn i'r Meddyg am lungopi o'r nodiadau meddygol perthnasol. Dylid rhestru'r llungopi hwn ar y ffurflen MG6(d) (deunydd sensitif).

Caiff copi arall o'r nodiadau ei restru ar ffurflen MG6C (deunydd heb fod yn sensitif) a rhaid cuddio unrhyw wybodaeth sensitif a gwybodaeth nad yw'n berthnasol i'r achos y rhoddodd y tyst ddatganiad ar ei gyfer.

Bydd y math o wybodaeth y gellid ei chuddio o unrhyw lungopi o'r fath yn cynnwys, o bosib, gyfeiriad y claf, enw a chyfeiriad meddyg teulu'r claf ac unrhyw hanes meddygol ategol sy'n perthyn i'r claf. Ni fwriedir i'r rhestr hon gyfyngu ar y math o wybodaeth y gellid ei chuddio.

Ei Anrhydedd y Barnwr D Roderick Evans CF

Rhagfyr 1999

Dychwelwch i Mynegai Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 March 2005 15:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .